Llansanffraid-ym-Mechain
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Llansanffraid |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 52.775°N 3.157°W |
Cod OS | SJ220203 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Russell George (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Steve Witherden (Llafur) |
- Am leoedd eraill o'r enw "Llansanffraid" (neu enwau tebyg) ym Mhowys a siroedd eraill, gweler Llansantffraid (gwahaniaethu).
Pentref yng nghymuned Llansanffraid, dwyrain Powys, yw Llansanffraid-ym-Mechain[1][2] (hefyd Llansantffraid-ym-Mechain). Saif i'r dwyrain o bentref Llanfyllin, rhyw 8 milltir i'r de-orllewin o Groesoswallt dros y ffin yn Lloegr, ar y briffordd A495 ac yn agos i'r fan lle mae Afon Cain yn ymuno ag Afon Efyrnwy. Mae'r ffin â Lloegr o fewn rhyw 2 km i'r pentref.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Russell George (Ceidwadwyr)[3] ac yn Senedd y DU gan Steve Witherden (Llafur).[4]
Tarddiad yr enw
[golygu | golygu cod]Daw'r enw 'Llansanffraid' oddi wrth y Santes Ffraid. Roedd Mechain yn un o gantrefi teyrnas Powys yn yr Oesoedd Canol. Ym Mai 2008, mabwysiadodd y pentref y ffurf Gymraeg hanesyddol ar enw'r pentref 'Llansanffraid-ym-Mechain' fel enw swyddogol y pentref, gan nodi bod y ffurf gyda'r llythyren "t" - 'Llansantffraid-ym-Mechain' yn ffurf Fictoraidd a ddefnyddiwyd am y tro cyntaf ganol y 19eg ganrif. Bellach mae'r ffurf draddodiadol/safonol i'w gweld ar arwyddion ffordd o gwmpas y pentref.
-
Llansantffraid o'r afon ca. 1885
-
Y ffordd drwy Llansantffraid ca. 1885
-
Yr eglwys leol
-
Lleoliad Plas-yn-Dinas o'r ffordd fawr
Hanes
[golygu | golygu cod]Credir fod cnewyllyn yr eglwys yn dyddio o'r 12g, er ei bod wedi ei newid llawer ers hynny. Dadorchuddiwyd un o'i ffenestri gan William Morris Hughes, fu'n brif weinidog Awstralia rhwng 1915 a 1923; roedd ei fam yn frodor o'r ardal yma.
Plas-yn-Dinas
[golygu | golygu cod]Cofrestwryd Plas-yn-Dinas fel heneb, ac fe'i lleolir 5 km i'r gorllewin o'r hen Glawdd Offa.[5][6] Pren oedd ei wneuthuriad yn wreiddiol, mae'n debyg, ac fe'i cofnodwyd yn gyntaf yn y 14c fel cartref Arlwyddi Mechain.[7] Mae rhan o'r tir yn cynnwys olion Rhufeinig, sef Mediolanum.[8]
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Mae'r clwb pêl-droed, C.P.D. y Seintiau Newydd, yn un o'r cryfaf yn Uwchgynghrair Cymru.
Pobl a aned yn Llansanffraid
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 14 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 5 Ionawr 2022
- ↑ Gwefan Senedd Cymru
- ↑ Gwefan Senedd y DU
- ↑ "PLAS-YN-DINAS". Coflein.
- ↑ "Plas yn Dinas Castle". CPAT. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-06. Cyrchwyd 2016-10-29.
- ↑ "Plas yn Dinas, Llansantffraid". Gatehouse Gazetteer.
- ↑ "Llansantffraid Montgomeryshire". Vision of Britain.
Trefi
Aberhonddu · Crucywel · Y Drenewydd · Y Gelli Gandryll · Llanandras · Llandrindod · Llanfair-ym-Muallt · Llanfyllin · Llanidloes · Llanwrtyd · Machynlleth · Rhaeadr Gwy · Talgarth · Y Trallwng · Tref-y-clawdd · Trefaldwyn · Ystradgynlais
Pentrefi
Abaty Cwm-hir · Aberbrân · Abercegir · Abercraf · Aberedw · Abergwesyn · Abergwydol · Aberhafesb · Aberhosan · Aberllynfi · Aber-miwl · Aberriw · Abertridwr · Aberysgir · Adfa · Arddlin · Bachelldref · Y Batel · Betws Cedewain · Beulah · Bochrwyd · Bontdolgadfan · Y Bontnewydd-ar-Wy · Bronllys · Bugeildy · Bwlch · Caersŵs · Capel Isaf · Capel Uchaf · Capel-y-ffin · Carno · Casgob · Castell Caereinion · Castell-paen · Cathedin · Cegidfa · Cemaes · Ceri · Cilmeri · Y Clas-ar-Wy · Clatter · Cleirwy · Cnwclas · Coedybrenin · Coelbren · Comins-coch · Crai · Craig-y-nos · Crugion · Cwmdu · Cwm-twrch · Darowen · Defynnog · Derwen-las · Dolanog · Dolfor · Dylife · Einsiob · Erwd · Esgairgeiliog · Felindre, Maldwyn · Felin-fach · Y Foel · Ffordun · Gaer · Garth · Glan-miwl · Glantwymyn · Glasgwm · Y Groes · Gwenddwr · Heol Senni · Isatyn · Kinnerton · Libanus · Llan · Llanafan Fawr · Llananno · Llanarmon Mynydd Mawr · Llanbadarn Fynydd · Llanbadarn Garreg · Llanbister · Llanbryn-mair · Llandinam · Llandrinio · Llandyfaelog Tre'r-graig · Llandysilio · Llandysul · Llan-ddew · Llanddewi yn Hwytyn · Llanddewi Ystradenni · Llanelwedd · Llanerfyl · Llanfair Caereinion · Llanfair Llythynwg · Llanfechain · Llanfihangel Nant Brân · Llanfihangel Nant Melan · Llanfihangel Rhydieithon · Llanfihangel Tal-y-llyn · Llanfihangel-yng-Ngwynfa · Llanfrynach · Llangadfan · Llangadwaladr · Llangamarch · Llangasty Tal-y-llyn · Llangatwg · Llangedwyn · Llan-gors · Llangurig · Llangynidr · Llangynllo · Llangynog · Llangynyw · Llanhamlach · Llanigon · Llanllugan · Llanllwchaearn · Llanllŷr · Llanrhaeadr-ym-Mochnant · Llansanffraid Cwmdeuddwr · Llansanffraid-ym-Mechain · Llansantffraed (Aberhonddu) · Llansantffraed-yn-Elfael · Llansilin · Llanwddyn · Llanwnnog · Llanwrin · Llanwrthwl · Llanwyddelan · Llanymynech · Llan-y-wern · Llawr-y-glyn · Llechfaen · Llowes · Llys-wen · Llywel · Llwydiarth · Manafon · Meifod · Merthyr Cynog · Mochdre · Nant-glas · Nantmel · Pandy · Pencelli · Pencraig · Penegoes · Pengefnffordd · Pennant Melangell · Pentrefelin · Penybont · Pen-y-bont-fawr · Pilalau · Pipton · Pont-faen · Pontneddfechan · Pontrobert · Pontsenni · Pwllgloyw · Saint Harmon · Sarn · Sarnau, Brycheiniog · Sarnau, Maldwyn · Sgethrog · Snead · Sycharth · Talachddu · Talerddig · Tal-y-bont · Tal-y-bont ar Wysg · Tirabad · Trallong · Trecastell · Trefeca · Trefeglwys · Tregynon · Trelystan · Tre'r-llai · Tretŵr · Tre-wern · Walton · Yr Ystog