Llandegfan
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2391°N 4.1517°W |
Cod OS | SH565735 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Rhun ap Iorwerth (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Llinos Medi (Plaid Cymru) |
Pentref yng nghymuned Cwm Cadnant, Ynys Môn, yw Llandegfan[1][2] ( ynganiad ). Saif yn ne-ddwyrain yr ynys, ar ffordd gefn ychydig i'r gogledd-ddwyrain o dref Porthaethwy ac i'r gogledd o briffordd yr A545 rhwng Porthaethwy a Biwmares.
Mae'r pentref mewn dwy ran; y pentref gwreiddiol yw'r hyn a elwir yn awr yn Hen Landegfan, o gwmpas yr eglwys, sydd wedi ei chysegru i Sant Tegfan. Tyfodd y rhan arall, sydd gryn dipyn yn fwy, i'r de o'r hen bentref ac yn nes at yr A545. Codwyd ystad newydd yn y pentref o'r enw Gwêl y Llan yn 2003 - sef y datblygiad mwyaf diweddar yn y pentref. Mae yna siop fach ar gornel Lôn Ganol a hefyd mae yna Ysgol Gynradd fawr yno, hefo dros 120 o blant yno. Poblogaeth y pentref (2010) yw 927.[3]
Mae yna Neuadd y Plwyf yn y pentref, lle mae cyfarfodydd, digwyddiadau elusen, a hefyd y clwb ieuenctid yn cael ei gynnal. Mae yna barc chwarae tu allan i'r neuadd.
Mae yna dafarn o'r enw Pen y Cefn, sydd yn sefyll wrth ymyl hen felin a chafodd ei ddefnyddio llawer o flynyddoedd yn ôl.
Gweithio yn ninas Bangor y mae'r mwyafrif o'r trigolion.
Eisteddfod
[golygu | golygu cod]Cynhaliwyd Eisteddfod Môn 2008 yn Llandegfan.
Chwaraeon
[golygu | golygu cod]Mae yna dim pêl-droed yn y pentref, CPD Llandegfan sydd yn chwarae ar gae Lôn Tŷ Newydd. Mae'r clwb wedi cael trafferthion ariannol yn y gorffennol, ond rwan erbyn 2018 mae'r tim wedi ail-sefydlu ac maen nhw yn chwarae yng Nghynghrair Ynys Môn.
Mae'r Ysgol Gynradd hefo cyfleusterau chwaraeon cymharol well na lot o ysgolion o'i gwmpas. Mae gan yr ysgol dimau pêl-droed, rygbi 'tag', pêl-rwyd, hoci, a nofio.
Mae'r tafarn yn cynnal clybiau dartiau a hefyd snwcer/pŵl.
Pobl o Landegfan
[golygu | golygu cod]Bu Aled Jones yn byw yma pan oedd ei fam yn athrawes yn yr ysgol gynradd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Rhestr o Enwau Lleoedd Safonol Cymru". Llywodraeth Cymru. 13 Hydref 2021.
- ↑ British Place Names; adalwyd 15 Rhagfyr 2021
- ↑ (Cymraeg) GENUKI. Gwefan swyddogol. GENUKI. Adalwyd ar 06 Ebrill 2012.
Dolen allanol
[golygu | golygu cod]- Nodweddion o ddiddordeb yn Llandegfan, gan ddisgyblion yr ysgol Archifwyd 2005-02-07 yn y Peiriant Wayback
Trefi
Amlwch · Benllech · Biwmares · Caergybi · Llangefni · Niwbwrch · Porthaethwy
Pentrefi
Aberffraw · Bethel · Bodedern · Bodewryd · Bodffordd · Bryngwran · Brynrefail · Brynsiencyn · Brynteg · Caergeiliog · Capel Coch · Capel Gwyn · Carmel · Carreglefn · Cemaes · Cerrigceinwen · Dwyran · Y Fali · Gaerwen · Glyn Garth · Gwalchmai · Heneglwys · Hermon · Llanallgo · Llanbabo · Llanbedrgoch · Llandegfan · Llandyfrydog · Llanddaniel Fab · Llanddeusant · Llanddona · Llanddyfnan · Llanedwen · Llaneilian · Llanfachraeth · Llanfaelog · Llanfaethlu · Llanfair Pwllgwyngyll · Llanfair-yn-Neubwll · Llanfair-yng-Nghornwy · Llan-faes · Llanfechell · Llanfihangel-yn-Nhywyn · Llanfwrog · Llangadwaladr · Llangaffo · Llangeinwen · Llangoed · Llangristiolus · Llangwyllog · Llanidan · Llaniestyn · Llannerch-y-medd · Llanrhuddlad · Llansadwrn · Llantrisant · Llanynghenedl · Maenaddwyn · Malltraeth · Marian-glas · Moelfre · Nebo · Pencarnisiog · Pengorffwysfa · Penmynydd · Pentraeth · Pentre Berw · Pentrefelin · Penysarn · Pontrhydybont · Porthllechog · Rhoscolyn · Rhosmeirch · Rhosneigr · Rhostrehwfa · Rhosybol · Rhydwyn · Talwrn · Trearddur · Trefor · Tregele