Lithwania
Lietuvos Respublika | |
Arwyddair | Vienybė težydi |
---|---|
Math | gwladwriaeth sofran, gwladwriaeth unedol, gwlad sy'n ffinio gyda'r Môr Baltig, gwlad |
Prifddinas | Vilnius |
Poblogaeth | 2,860,002 |
Sefydlwyd | |
Anthem | Tautiška giesmė |
Pennaeth llywodraeth | Ingrida Šimonytė |
Cylchfa amser | UTC 2, UTC 03:00 |
Nawddsant | Sant Casimir |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Lithwaneg |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Gwledydd Baltig, yr Undeb Ewropeaidd, Ardal Economeg Ewropeaidd, Gogledd Ewrop |
Arwynebedd | 65,300 ±1 km² |
Gerllaw | Y Môr Baltig |
Yn ffinio gyda | Belarws, Latfia, Gwlad Pwyl, Rwsia, Sweden |
Cyfesurynnau | 55.2°N 24°E |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Llywodraeth Lithwania |
Corff deddfwriaethol | Seimas |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Llywydd Gweriniaeth Lithwania |
Pennaeth y wladwriaeth | Gitanas Nausėda |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Prif Weinidog Lithwania |
Pennaeth y Llywodraeth | Ingrida Šimonytė |
Ariannol | |
Cyfanswm CMC (GDP) | $70,334 million |
Arian | Ewro |
Canran y diwaith | 11 ±1 canran |
Cyfartaledd plant | 1.59 |
Mynegai Datblygiad Dynol | 0.875 |
Gweriniaeth yng ngogledd-ddwyrain Ewrop yw Lithwania (yn swyddogol: Gweriniaeth Lithwania; ceir y ffurf Llethaw mewn un geiriadur Cymraeg[1]). Saif ar lan y Môr Baltig. Un o'r Gwledydd Baltig yw Lithwania, ynghyd ag Estonia a Latfia. Mae Lithwania yn ffinio â Latfia i'r gogledd, â Belarws i'r de-ddwyrain, ac â Gwlad Pwyl a Kaliningrad Oblast, sy'n ran o Rwsia, i'r de-orllewin. Daeth Lithwania yn aelod o'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Mai 2004.
Hanes Lithwania
[golygu | golygu cod]Prif-bwyntiau Hanes Lithwania
- 10 Ganrif – Llywthau Lithwnaiad-Prwsiaid paganaid.
- 980au – Cristnogaeth yn dod i gymdogion y Lithwaniaid-Prwsiaid.
- 997 – Merthyrdod St Adalbert ym Mrwsia.
- 1007 – Son cyntaf am Lithwania mewn dogfen.
- 1147 – Croesgad cyntaf yn erbyn paganiaid Baltaidd – tranc y Prwsiaid.
- 1200 – Ail groesgad yn erbyn y Lithwaniaid.
- 1215 – Esgob cyntaf y Lithwaniaid ond y wlad yn bagan o hyd.
- 1219 – Mindaugas Brenin cyntaf y Lithwaniaid 1219–63.
- 1236 – Lithwaniaid yn gorfygu y croesgadwyr ym mrwydr Siaulai.
- 1315 – Gediminas yn arwain Lithwania 1315–41.
- 1385 – Jogaila yn cael ei bedyddio, Lithwania yn troi yn Gristnogol a ffurfio Brenhiniaeth Lithwania-Pwyl.
- 1410 – Lithwania-Pwyl yn trechu'r Almaenwyr ym mrwydr Grunwald. Ffyniant y wlad.
- 1569 – Lithwania-Pwyl yn ffurfio "Cymanwlad".
- 16C – Twf Rwsia a Sweden yn raddol dileu tiroedd y Lithwaniaid, mae'r wlad yn cael ei rhannu dro ar ôl tro dros y tair canrif wedyn. Adnabyddir y cyfnod yn well fel "rhaniad triphlyg Pwyl".
- 19C – Lithwania dan Ymerodraeth Rwsia, mudiad am annibyniaeth yn egino.
- 1918–1939 – Ar 16/02/1918 mae'r Lithwaniaid yn datgan annibynniaeth, ond y Pwyliaid yn cymryd Vilnius ym 1919. Cawnas yn Brifddinas. Cyfnod annibynnol yn symud at unbennaeth.
- 1940 – Meddiannu Lithwania gan y Rwsiaid (Sofietaidd).
- 1940–44 – Meddiannu Lithwania gan y Natsiaid.
- 1944–89 – Meddiannu Lithwania gan y Rwsiaid (Sofietaidd) fel Gweriniaeth Sofiet gyda Vilnius yn brifddinas.
- 1990 – Ar 11/03 1990 mae'r Lithwaniaid yn datgan annibynniaeth.
- 2004 – Ymuno â NATO 2004 a'r Undeb Ewropeaidd.
- 2007 – Ymuno â Chytundeb Schengen.
Hanes fodern
[golygu | golygu cod]Mae hanes fodern Lithiwania ynghlwm wrth hanes y cenhedloedd mawr yn yr 20g. Gyda chwymp ymerodraeth yr Almaen ym 1918 daeth hi, a'i chymdogion Estonia a Latfia, yn rhydd ac yn genhedloedd annibynnol. Daeth hyn i ben dan y gytundeb rhwng Rwsia a'r Almaen ym 1939. Yn ystod y rhyfel meddiannwyd y wlad gan y Natsiaid a bu farw 190,000 o ddinasyddion Iddewig Lithwania. Wedi'r rhyfel aeth y wlad i mewn i'r Undeb Sofietaidd tan 1991. O 1944 tan 1952 roedd byddin cudd gwrth-Sofiet yn y wlad a charcharwyd miloedd o Lithwaniaid yn y Gwlagau.
Ers ei hannibyniaeth symudodd y wlad tuag at Ewrop, ymunodd a'r UE a NATO a bu ffyniant economaidd. Ond gydag agor y drysau i allfudo gadawodd miloedd o bobl ifainc am Brydain a'r Almaen.
Ethnigrwydd
[golygu | golygu cod]Mae poblogaeth Lithwania yn amrywio (mae'r ffigyrau swyddogol yn cynnwys pobl sy'n byw tramor) ond honnir bod 3,349,900, 84.0% o'r rhain yn Lithwaniaid ethnig sy'n siarad yr iaith Lithwaneg sef unig iaith swyddogol y wlad. Mae lleiafrifoedd eraill yn cynnwys Pwyliaid (6.1%), Rwsiaid (4.9%) a Belarwsiaid (1.1%), yn ôl "Department of Statistics to the Government of the Republic of Lithwania".[2]
Ffigyrau 2010 yn dangos:
- Lithwaniaid – 83.1% (2,765,600),
- Pwyliaid – 6.0% (201,500),
- Rwsiaid – 4.8% (161,700),
- Belarwsiaid – 1.1% (35,900),
- Wcreiniaid – 0.6% (19,700),
- Almaenwyr – 0.1% (3,200),
- Iddewon – 0.1% (3,200),
- Tatariaid – 0.1% (2,800),
- Latfiaid – 0.1% (2,300),
- Roma – 0.1% (2,400),
- Eraill – 0.2% (8,200),
- Heb ddweud – 3.7% (122,500).
Siroedd weinyddol
[golygu | golygu cod]Mae gan Lithwania ddeg siroedd a chwe deg o ddosbarthiadau gweinyddol, er bod ddim gan y deg siroedd lywodraethau leol ers eu dilead yn y flwyddyn 2010, mae'r siroedd yn dal i fodoli gyda'r bwriad o gasglu ystadegau lleol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ The Pocket Modern Welsh Dictionary
- ↑ "Yr etholiadau". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-05-27. Cyrchwyd 2011-09-11.
- "The Northern Crusades". Eric Christiansen. Penguin. 1997. (Hanes y Gwledydd Baltaidd)
- "Pe Bai Cymru'n Rhydd". Gwynfor Evans. Y Lolfa. 1989. Pennod ar y Gwledydd Baltaidd.
- "Lithwania". Encyclopedia Britannica. darllenwyd 9 Hydref 2010.
- "Population by ethnicity 2009 year". DB1.stat.gov.lt. Statistics Lithwania. darllenwyd 20 Ionawr 2010.
- Statistics Lithwania
|