Lisa Palfrey
Lisa Palfrey | |
---|---|
Lisa Palfrey, Roc Ystwyth, Aberystwyth, 1987. | |
Ganwyd | 9 Chwefror 1967 Cymru |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor |
Mam | Eiry Palfrey |
Actores o Gymru yw Lisa Palfrey (ganwyd 9 Chwefror 1967).
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Fe aeth i Ysgol Gyfun Llanhari ger Pont-y-clun.[1] Mae'n ferch i'r actores ac awdur, Eiry Palfrey.[2] ac mae ganddi ferch, Lowri Palfrey sydd hefyd yn actores.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Dechreuodd actio yn broffesiynol yn 20 oed pan gafodd ran yn chwarae merch 15 oed yng nghyfres The District Nurse.
Mae'n adnabyddus am chwarae prif ran yn y ffilm The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain.[3] Fe aeth ymlaen i serennu yn y ffilm gwlt House of America,[4] ac mae wedi ymddangos yn ffilm gomedi Guest House Paradiso a chyfres deledu Casualty.
Mae wedi chwarae cymeriad "Rhiannedd Frost" yn opera sebon Pobol y Cwm.[5] Mae wedi perfformio mewn nifer o ddramau llwyfan yn cynnwys cynhyrchiad gwreiddiol addasiad David Eldridge o Festen[6] a Under The Blue Sky,[7] The Iceman Cometh [8] gyda Kevin Spacey a The Kitchen Sink.[9]
Yn 2021 chwaraeodd ran Mair yn y ffilm arswyd Gymraeg Gwledd.
Gwaith
[golygu | golygu cod]Theatr
[golygu | golygu cod]- Festen
- Under The Blue Sky
- The Iceman Cometh
- The Kitchen Sink
Teledu
[golygu | golygu cod]- District Nurse - BBC
- Soldier Soldier - ITV
- Fondue, Rhyw a Deinosors - S4C
- Split Second - BBC
- Outside the Rules - BBC
- The Bench - BBC Cymru
- Family Tree - HBO (2013)
- Line of Duty - BBC, Cyfres 3 (2016)
Ffilm
[golygu | golygu cod]- The Englishman Who Went Up a Hill But Came Down a Mountain (1995) "Blod Jones"
- House of America (1997) "Gwenny"
- Guest House Paradiso (1999) "Mrs. Nice"
- Byw Yn Dy Groen - S4C (2001)
- Pride (2014) "Maureen Barry"
- Under Milk Wood (2015)
- Gwledd (2021)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Blink - Gofidio nad oes llwyfan i addasiad Cymraeg". BBC. Cyrchwyd 22 June 2010.
- ↑ O Drelew i Dre-fach, BBC Cymru; Adalwyd 2015-12-30
- ↑ (Saesneg) The Englishman Who Went up a Hill, but Came down a Mountain. Radio Times.
- ↑ "Rare bit of Welsh drama". The Herald. 14 August 1997. Cyrchwyd 22 June 2010.
- ↑ "Comedian Tudor Owen is getting serious". The Daily Post. 14 November 2009. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-07-29. Cyrchwyd 22 June 2010.
- ↑ What's On Stage[dolen farw]
- ↑ David Eldridge (2 Gorffennaf 2010). The Methuen Drama Book of Royal Court Plays 2000-2010 (yn en). Bloomsbury Academic. URL
- ↑ (Saesneg) Review: ‘The Iceman Cometh’. Variety (16 Ebrill 1998).
- ↑ Review: The Kitcken Sink
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Lisa Palfrey ar wefan Internet Movie Database
- Lisa Palfrey ar Twitter