Lerwick
Gwedd
Math | tref, bwrdeistref fach |
---|---|
Poblogaeth | 6,958, 6,880 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Shetland |
Gwlad | Yr Alban |
Arwynebedd | 3.15 km² |
Uwch y môr | 12 metr |
Cyfesurynnau | 60.1542°N 1.1486°W |
Cod SYG | S20000294, S19500323 |
Cod OS | HU474414 |
Cod post | ZE1 |
Tref yn Shetland, yr Alban, yw Lerwick[1] (Gaeleg yr Alban: Liúrabhaig;[2] Sgoteg: Lerrick;[3] Norwyeg a Norn: Leirvik). Saif ar arfordir dwyreiniol ynys Mainland. Mae wedi bod yn brifddinas i Shetland ers 1708. (Scalloway oedd y brifddinas cyn hynny.) Mae'n canolfan weinyddol Shetland a phorth bwysig, yn arbennig i'r diwydiant pysgota penwaig.
Lerwick yw'r dref fwyaf gogleddol yn ynysoedd Prydain. Mae Caerdydd 973.5 km i ffwrdd o Lerwick ac mae Llundain yn 963.6 km. Y ddinas agosaf ydy Aberdeen sy'n 339.4 km i ffwrdd.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan ardal adeiledig Lerwick boblogaeth o 6,960.[4]
Cynhelir Gŵyl Tân mwyaf Ewrop, Up Helly Aa, yn Lerwick ar y dydd Mawrth olaf ym mis Ionawr.[5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 16 Ebrill 2022
- ↑ Dyma'r ffurf sy'n ymddangos ar Wicipedia Gaeleg yr Alban, ond nid yw honno'n cael ei chymeradwyo gan y corff swyddogol Ainmean-Àite na h-Alba (adalwyd 16 Ebrill 2022).
- ↑ "Names in Scots", Centre for the Scots Leid; adalwyd 16 Ebrill 2022
- ↑ City Population; adalwyd 16 Ebrill 2022
- ↑ "'Up Helly Aa - Europe's biggest fire festival', Scotland, adalwyd 9 Mawrth 2016". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-10. Cyrchwyd 2016-03-09.