Neidio i'r cynnwys

Legio I Adiutrix

Oddi ar Wicipedia
Legio I Adiutrix
Enghraifft o'r canlynolLleng Rufeinig Edit this on Wikidata
Daeth i benUnknown Edit this on Wikidata
Dechrau/Sefydlu68 Edit this on Wikidata
LleoliadMisenum, Hispania, Mogontiacum, Sirmium, Brigetio, Dacia Edit this on Wikidata
SylfaenyddGalba Edit this on Wikidata
GwladwriaethRhufain hynafol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Denarius o deytnasiad Septimius Severus yn anrhydeddu legio I Adiutrix.

Lleng Rufeinig oedd Legio I Adiutrix. Fe'i sefydlwyd gyntaf gan yr ymerawdwr Nero tn 66, a chadarnhawyd hi fel lleng gan ei olynydd, Galba yn 69. Ei symbol oedd yr afr, neu weithiau Pegasos. Yn ddiweddarach, cafodd yr enw ychwanegol Pia Fidelis.

Ymladdodd ei brwydr gyntaf ym Mrwydr Gyntaf Bedriacum dros Otho yn erbyn Vitellius. Wedi i Vitellius ennill y frwydr, trosgwyddodd y lleng i Sbaen. Yn 70, ymladdodd yn erbyn y Batafiaid, a symudodd i Mainz. Bu'n ymladd yn erbyn y Chatti ar afon Rhein yn 83, ac yn erbyn y Parthiaid dan Trajan yn 115 - 117. Yn ystod rhyfel cartref 193 - 195, rhoddodd y lleng ei chefnogaeth i Septimius Severus. Ceir y cofnod olaf am y lleng yn 444.