Lefant
Gwedd
Math | rhanbarth, ardal ddiwylliannol |
---|---|
Poblogaeth | 44,550,926 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Y Dwyrain Canol |
Gerllaw | Môr y Lefant |
Yn ffinio gyda | Yr Aifft, Asia Leiaf, Mesopotamia, Arabia |
Cyfesurynnau | 34°N 36°E |
Y Lefant (o'r gair Ffrangeg Levant; "lle gwawria'r haul") yw'r enw traddodiadol ar yr ardal ar arfordir dwyreiniol y Môr Canoldir sy'n cael ei chynnwys heddiw yng ngwladwriaethau Twrci (cornel dde-ddwyreiniol y wlad), Syria (ac eithrio'r rhannau dwyreiniol), Libanus ac Israel. Fe'i gelwir hefyd "y Dwyrain Agos" ac mae'r Sinai a rhannau o Wlad Iorddonen yn cael eu cynnwys yn yr ardal weithiau yn ogystal.
Gelwid Syria a Libanus dan reolaeth mandad Ffrainc "Taleithiau'r Lefant" ac mewn rhai llyfrau cyfyngir y term 'Lefant' i Libanus a gorllewin Syria.