Le passé simple
Math o gyfrwng | gwaith llenyddol |
---|---|
Awdur | Driss Chraïbi |
Cyhoeddwr | Éditions Gallimard |
Iaith | Ffrangeg |
Nofel Ffrangeg gan y llenor Morocaidd, Driss Chraïbi yw Le passé simple ("Y gorffennol syml"). Cafodd ei chyhoeddi am y tro cyntaf gan gwmni cyhoeddi Gallimard yn 1954 ac mae wedi cael ei chyhoeddi yn rheolaidd byth ers hynny. Cafodd y nofel sylw eang, ym Moroco a Ffrainc, oherwydd ei themâu dadleuol a mynegiant herfeiddiol ac fe'i beirniadwyd yn llym gan geidwadwyr yn y ddwy wlad fel ei gilydd, ond erbyn heddiw mae'n cael ei hystyried yn glasur o nofel sy'n dal i ddenu ymateb cryf.
Cynllun, themâu ac arddull
[golygu | golygu cod]Prif thema'r nofel yw'r gwrthdaro rhwng gwerthau'r Gorllewin a rhai Islam draddodiadol, a hynny ar lefel bersonol iawn yn erbyn cefndir o wladychiaeth a'r ymgyrch dros annibyniaeth i Foroco. Mae themâu pwysig eraill yn cynnwys lle merched yn y gymdeithas Islamaidd, rhyddid yr unigolyn, a hunaniaeth ddiwylliannol mewn oes o newid.
Mae'r nofel yn dilyn profiadau dyn ifanc o'r enw Driss sy'n cael ei anfon i ysgol Ffrangeg ym Moroco lle mae'n dod yn edmygwr brwd ond diniwed o wareiddiad y Gorllewin. Ac eto mae ei gefndir yn geidwadol. Mae ei dad – Y Seigneur ("Yr Arglwydd") – yn mwynhau parch a safle uchel yn y gymdeithas oherwydd ei "sancteiddrwydd" ymddangosiadol fel Mwslim dysgedig traddodiadol ac fel marsiandïwr llwyddiannus ond dan wyneb hyn ceir elfen gref o drais a thensiynau ym mywyd y teulu gyda chanlyniadau trasig sy'n llwyddo i droi Driss yn wrthryfelwr amharchus, anarchaidd, dinistriol a gwrthodedig.
Adroddir yr hanes yn y person cyntaf gan Driss a cheir elfen amlwg o'r hunangofiannol o ran profiad yr awdur, er mai dychmygol yw'r hanes. Mae arddull a mynegiant y nofel yn ffrwydrol ac uniongyrchol ond ceir hiwmor a thynerwch hefyd. Mae Driss Chraïbi yn cydnabod dylanwad William Faulkner arno yn y cyfnod pan ysgrifennodd hi.
Yr ymateb i'r nofel ym Moroco
[golygu | golygu cod]Am flynyddoedd cafodd Le passé simple ei fflangellu gan feirniaid ac arweinwyr ceidwadol ym Moroco ond erbyn heddiw mae'n cael ei hastudio ym mhrifysgolion y wlad.
Manylion cyhoeddi
[golygu | golygu cod]Cafodd Le passé simple ei gyhoeddi gan Gallimard, Paris, yn 1954. Yr argraffiad diweddaraf yw'r un yn y gyfres boblogaidd 'Folio', gan gwmni cyhoeddwyr Denoël, 2009. ISBN 978-2-07-037728-2