Lannvorek
Gwedd
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Poblogaeth | 2,160 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Cernyw |
Gwlad | Cernyw Lloegr |
Cyfesurynnau | 50.2702°N 4.7874°W |
Cod SYG | E04011487 |
Cod OS | SX014449 |
Cod post | PL26 |
Porthladd, phentref a phlwyf sifil yng Nghernyw, De-orllewin Lloegr, ydy Lannvorek (Saesneg: Mevagissey),[1] tua chwe milltir o St Austell.
Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y plwyf sifil boblogaeth o 2,117.[2]
Ceir cymysgedd o gychod pysgota a chychod pleser. Ceir llawer o strydoedd cul a siopau twristaidd, ond nid ydyw wedi ei orddatblygu fel rhai trefi megis Padstow. Mae'r enw Saesneg mewn gwirionedd yn enw Cernyweg - dau sant St Meva and St Issey wedi eu cysylltu gyda'r enw cysylltiol "ag" ac mae'r penterf wedi cael ei adnabod hefyd fel "Porthhilly" mor bell yn ôl a 1313.
Mae olion llawer hŷn yma hefyd - yn dyddio'n ôl i Oes yr Efydd.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 24 Hydref 2019
- ↑ City Population; adalwyd 3 Mawrth 2021