Neidio i'r cynnwys

La Tristesse Durera (Scream to a Sigh)

Oddi ar Wicipedia
La Tristesse Durera
Enghraifft o'r canlynolsengl Edit this on Wikidata
Rhan oGold Against the Soul Edit this on Wikidata
Dyddiad cyhoeddi1993 Edit this on Wikidata
Label recordioColumbia Records Edit this on Wikidata
Genreroc meddal Edit this on Wikidata
Rhagflaenwyd ganFrom Despair to Where Edit this on Wikidata
Olynwyd ganRoses in the Hospital Edit this on Wikidata

Sengl gan y Manic Street Preachers yw "La Tristesse Durera (Scream to a Sigh)", a ryddhawyd fel ail sengl yr albwm Gold Against the Soul (1993).

Dyfyniad o eiriau'r arlunydd Vincent Van Gogh ar ei wely angau yw'r Ffrangeg yn nheitl y gân, ac o gyfieithu'r geiriau yn fras golygant "Mae'r tristwch yn parhau". Y teitl uchod yw unig eiriau'r gytgan. Mae'r gân yn trafod y modd mae'r gymdeithas yn gyffredinol yn diystyru hen filwyr ac yn anghofio amdanynt o ddydd i ddydd ond yn gwneud pantomeim ohonynt unwaith y flwyddyn.

Cyrhaeddodd y sengl rif 22 yn siart y senglau ar 31 Gorffennaf 1993.

Cadarnhawyd poblogrwydd y gân wrth ymddangosiad La Tristesse Durera ar yr albwm Forever Delayed, casgliad o ganeuon gorau'r band.

Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.