Neidio i'r cynnwys

Kogal

Oddi ar Wicipedia
Kogal
Enghraifft o'r canlynolsteil ffasiynol Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn niwylliant Japan, mae Kogal (コギャル, kogyaru) yn cyfeirio at aelodau'r isddiwylliant Gyaru sy'n dal yn yr ysgol uwchradd neu'n fyfyrwyr ac sy'n ymgorffori gwisg ysgol Japan yn eu steil arferol.[1] Nodweddir y merched ysgol uwchradd hyn gan wallt wedi'u lliwio, colur, sgertiau byr, a sanau llydan a rhydd.[2][3] Daw'r gair kogal allan o kogyaru , sef cyfangiad o 'kōkōsei gyaru' (sef "merch o'r ysgol uwchradd"). Mae merched Japan yn ymfalchïo yn eu gwisg ysgol gymaint, nes eu bod yn ei wisgo y tu allan i furiau'r ysgol.

Isddiwylliant o ffasiwn yw'r Gyaru, ac mae'n perthyn i ferched ifanc, rhyfelgar (yn erbyn eu rhieni fel rheol), sy'n hoff o bartïon gwyllt, fflyrtio a hel bechgyn. Mae Kogal, felly yn is-isddiwylliant.

Yn amlach na pheidio, mae eu sgertiau'n gwta neu'n gwta iawn (sgert fini neu sgert facr), a gwisgant siaced ysgol math Burberry, sgarffiau siec, sgwarog a sgidiau llwyfan, trwchus. Gall eu hiaith gynnwys lawer o slang Saesneg ac yn aml, ond nid bob amser, myfyrwyr ydyn nhw, dros 18 oed, sy'n ceisio edrych yn iau, yn fwy rhywiol: mae nifer ohonyn nhw'n gwisgo fel hyn er mwyn denu dynion am arian. Prif ardaloedd y diwylliant kogal yw Harajuku a Shibuya yn Tokyo, yn enwedig Adeilad 109 Shibuya. Roedd y gantores pop Namie Amuro yn hyrwyddo'r ffasiwn yma. Mae Kogals yn ddefnyddwyr brwd o flychau tynnu lluniau, gyda'r mwyafrif yn ymweld o leiaf unwaith yr wythnos, yn ôl yr arolygon barn.[4]

Gellir adnabod y kogal, yn aml drwy ei sannau llac, trwchus a'i sgert gwta iawn.

Fel sydd wedi'i ddweud yn barod, mae llawer o'r merched hyn yn buteiniaid.[5] Mae rhai'n gwadu eu bod yn adlewyrchu gwacter seicolegol neu ysbrydol bywyd modern Japan. Mae rhai kogals yn cefnogi eu ffordd o fyw gyda lwfansau gan rieni cyfoethog, gan fyw bodolaeth "parasit sengl" sy'n cyd-fynd ag egwyddorion traddodiadol dyletswydd a diwydiant.[6] Cred rhai ffeminyddion fod y "merched ifanc hyn yn deilio gyda'u sefyllfa unigol mewn modd clyfar, mewn byd patriarchaidd gwrywaidd.[7] Mae eraill yn dweud fod y ffenomen kogal yn gweld bai ar y cyfryngau am greu ffetis allan o wisg ysgol yn hytrach na beio’r rhai sydd yn eu gwisgo.[8]

Dechreuodd ffasiwn Japan rannu yn ôl oedran yn y 1970au gydag ymddangosiad cylchgronau gyaru wedi'u hanelu at bobl ifanc yn eu harddegau. Mae Popteen, y cylchgrawn a ddarllenir amlaf, wedi bod yn cyhoeddi'n fisol ers 1980. Er bod ffasiwn brif ffrwd yn yr 1980au a'r 1990au cynnar yn pwysleisio arddull ferchetaidd a chiwt (kawaii), roedd cyhoeddiadau gyaru yn hyrwyddo a thueddiadau rhywiol. Cynhyrchwyd y prif gylchgronau gyaru, gan gynnwys Popteen, Street Jam a Happie Nuts, gan olygyddion a fu'n ymwneud yn flaenorol â chreu pornograffi.[8]

Gweler hefyd

[golygu | golygu cod]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. makoto. "コギャルたちの制服の着こなし方 | ギャルチャー". galture.com (yn Japaneeg). Cyrchwyd 2023-12-31.
  2. Uranaka, Taiga (12 November 2003). "Man who gave us loose white socks eyes comeback" – drwy Japan Times Online.
  3. "Trend gwisgoeedd merched usgol Japan". Independent.co.uk. 23 Tachwedd 1997.
  4. Miller, Laura; Bardsle, Jan. Bad Girls of Japan. t. 130.
  5. author (2018-04-19). "Kogal Fashion Style: Japanese Youth Subculture | japadventure.com". japadventure.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-01-23.[dolen farw]
  6. Sky Whitehead, "K is for Kogal Archifwyd 2011-07-24 yn y Peiriant Wayback"
  7. "» The History of the Gyaru – Part Two:: Néojaponisme » Archif Blog". Cyrchwyd 2023-01-24.[dolen farw]
  8. 8.0 8.1 Kinsella, Sharon, "Black faces, witches and racism", Bad Girls of Japan, golygwyd gan Laura Miller, Jan Bardsley, tt. 146.