Neidio i'r cynnwys

Kevin Scannell

Oddi ar Wicipedia
Kevin Scannell
Ganwyd11 Mai 1970 Edit this on Wikidata
Boston Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • Geoffrey Mess Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Prifysgol Saint Louis Edit this on Wikidata
Gwobr/auYsgoloriaethau Fulbright Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://kevinscannell.com/ Edit this on Wikidata

Mae Kevin Scannell (ganwyd 11 Mai 1970) yn athro mathemateg a chyfrifiadureg Americanaidd sydd yn gweithio ym Mhrifysgol Saint Louis, UDA.

Ganwyd Scannell ar 11 Mai 1970 yn Boston, Massachusetts. Graddiodd o Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT) gyda BS ym 1991. Yn 1996 dyfarnwyd ei ddoethuriaeth iddo o Brifysgol Califfornia, Los Angeles. Dechreuodd ddysgu Gwyddeleg yn y 1990au.

Athro mathemateg a chyfrifiadureg yw Scannell. Mae ei waith yn canolbwyntio ar ddatblygu adnoddau cyfrifiadurol ar-lein ar gyfer ieithoedd bach, lleiafrifol neu sydd heb ddigon o adnoddau, gyda diddordeb arbennig mewn Gwyddeleg ac ieithoedd Celtaidd eraill. Mae wedi datblygu thesawrws Gwyddelig, gwiriwr gramadeg, a gwiriwr sillafu, a geiriaduron a pheiriannau cyfieithu ar gyfer Gwyddeleg, Albanaidd a Manaweg. Mae Scannell yn aelod o'r tîm sy'n lleoleiddio platfformau gan gynnwys Gmail, Twitter a WhatsApp i'r Wyddeleg.[1] Sefydlodd Indigenous Tweets ('Tweets Cynhenid') yn 2011 i hyrwyddo'r defnydd o gyfryngau cymdeithasol trwy ieithoedd brodorol a lleiafrifol. Cyfieithodd werth 20 awr o ddeunydd codio i'r Wyddeleg ar gyfer Awr y Cod yn 2016.[2][3] Yn 2019 creodd generadur enw Gwyddeleg o'r enw Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value)..[4]

Yn 2019, enillodd Ysgoloriaeth Fulbright am gweithio ar ddatblygu technolegau iaith ar gyfer Gwyddeleg gan ddefnyddio rhwydweithiau dysgu dwfn a niwral mewn cydweithrediad ag ymchwilwyr yn Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value). yng Ngharna, Swydd Galway.[1][5]

Mae'n weithgar yn datblygu'r Wicipedia Gwyddeleg, ac yn ychwanegu cynnwys Gwyddeleg at Wicidata.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 Pollak, Sorcha (12 Mehefin 2019). "US academic to develop Irish language Siri during 6-month Gaeltacht stay". The Irish Times (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Gorffennaf 2020.
  2. Kelleher, Patrick (5 Rhagfyr 2016). "An cód: Now children can learn computer coding in Irish for the first time". Independent (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2020.
  3. Ó Broin, Ultan (15 Ionawr 2017). "An Cód: Craicing the Code in Irish". MultiLingual. Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2020.
  4. Ó Coimín, Maitiú (12 Medi 2019). "Don't know your name in Irish? There's an app for that!". IrishCentral.com (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2020.
  5. Kelly, Brian (13 Mehefin 2019). "Irish language Siri being made for people of Connemara". Galway Daily (yn Saesneg). Cyrchwyd 8 Gorffennaf 2020.