Keith Harris
Keith Harris | |
---|---|
Ganwyd | 21 Medi 1947 Lyndhurst |
Bu farw | 28 Ebrill 2015 o canser Blackpool |
Label recordio | BBC Records |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | pypedwr, cyflwynydd teledu, canwr |
Gwefan | http://www.keithharrisandorville.co.uk |
Tafleisiwr Seisnig oedd Keith Shenton Harris (21 Medi 1947 – 28 Ebrill 2015), a oedd yn fwyaf adnabyddus am ei rhaglen deledu The Keith Harris Show (1982–90), recordiadau sain ac ymddangosiadau mewn clybiau gyda'i bypedau Orville yr Hwyaden a Cuddles y Mwnci. Cafodd sengl yn siartiau 40 Uchaf y DU y 1982 gyda "Orville's Song" a gyrhaeddodd rhif 4 yn y siartiau.
Bywyd personol
[golygu | golygu cod]Roedd Harris yn byw gyda'i bedwaredd wraig, Sarah, a'u dau blentyn ifanc, yn Poulton-le-Fylde ger Blackpool, lle'r oedd arfer berchen ar glwb nos. Roedd yn arfer bod yn briod i'r gantores Jacqui Scott, enillydd sioe dalent ar y BBC yn 1979 a geisiodd ar gystadleuaeth A Song For Europe gyda'i chyfansoddiad ei hun. Roedd ganddynt un plentyn.
Ar ôl cael diagnosis o ganser yn 2013, cafodd Harris cemotherapi ac fe dynnwyd ei ddueg. Fe aeth yn ôl i weithio wedi hynny ond fe ddychwelodd y canser yn 2014 a bu farw ar 28 Ebrill 2015 yn 67 mlwydd oed yn Ysbyty Blackpool Victoria.[1][2][3]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Entertainer Keith Harris dies at 67 BBC News 28 April 2015
- ↑ "Secret weapon that gave Keith Harris and Orville humanity and appeal". Guardian. 28 April 2015. http://www.theguardian.com/tv-and-radio/2015/apr/28/secret-weapon-keith-harris-orville-humanity-appeal. Adalwyd 28 April 2015.
- ↑ Jenn Selby (28 April 2015). "Keith Harris dead: Orville the Duck ventriloquist dies aged 67 following battle with cancer". The Independent. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-25. Cyrchwyd 2016-03-21.