Neidio i'r cynnwys

Katie Ledecky

Oddi ar Wicipedia
Katie Ledecky
Katie Ledecky yn Rio de Janeiro 2016
GanwydKathleen Genevieve Ledecky Edit this on Wikidata
17 Mawrth 1997 Edit this on Wikidata
Washington Edit this on Wikidata
Man preswylBethesda, Maryland, Stanford, Florida Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Alma mater
Galwedigaethnofiwr Edit this on Wikidata
Taldra183 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau73 cilogram Edit this on Wikidata
TadDavid Ledecký Edit this on Wikidata
PerthnasauJon Ledecky Edit this on Wikidata
Gwobr/auL'Équipe Champion of Champions, L'Équipe Champion of Champions, Honda Sports Award for Swimming & Diving, Associated Press Athlete of the Year, Gwobr 'Hall of Fame' Merched Maryland, Associated Press Athlete of the Year Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://katieledeckyswim.com/ Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Gwlad chwaraeonUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata

Nofiwr o Unol Daleithiau America yw Kathleen Genevieve Ledecky (ganwyd 17 Mawrth, 1997). Mae ganddi 9 medal aur Olympaidd a 21 o fedalau aur o Bencampwriaeth y Byd, y mwyaf o fedalau erioed ar gyfer nofwraig. Mae hi'n cael ei chydnabod fel un o'r goreuon erioed yn y pwll.

Ledecky sy'n dal y record byd am 800m a 1500m steil rhydd, ac mi oedd hi'n dal y record ar gyfer 400m steil rhydd.

Bywyd cynnar

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Ledecky yn Washington, D.C., a magwyd ger Bethesda, Maryland. Dechreuodd nofio yn chwech oed.[1]

Aeth i'w gemau olympaidd cyntaf yn Llundain, 2012 pan oedd yn 15 oed. Yn annisgwyl, enillodd y fedal aur yn 800m steil rhydd. Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2016 yn Rio de Janeiro, cipiodd bedair medal aur ac un arian. Torrodd ddwy record byd hefyd. Enillodd dwy fedal aur a dwy fedal arian yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2020 yn Tokyo. Yn 2023, hi oedd y person cyntaf erioed i ennill chwech aur ym Mhencampwriaeth y Byd yn yr un gystadleuaeth. Yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2024, enillodd dwy fedal aur, un arian, ac un efydd.[2]

Mae hi wedi ennill cyfanswm o 50 medal (38 aur, 10 arian a 2 efydd) mewn cystadleuthau rhyngwladol yn y gemau Olympaidd, Pencampwriaeth y Byd a Pencampwriaeth Pan Pacific.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Katie Ledecky". www.teamusa.com (yn Saesneg). 2024-04-11. Cyrchwyd 2024-08-05.
  2. "Katie Ledecky wins ninth Olympic gold with 800m freestyle victory at Paris 2024". BBC Sport (yn Saesneg). 2024-08-03. Cyrchwyd 2024-08-05.