Kasimov
Math | uned weinyddol o dir yn Rwsia, tref/dinas |
---|---|
Poblogaeth | 27,821 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC 04:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Oblast Ryazan, Kasimovsky District, Kasimovsky Uyezd, Qasim Khanate |
Gwlad | Rwsia |
Arwynebedd | 20 km² |
Uwch y môr | 100 metr |
Cyfesurynnau | 54.9583°N 41.3972°E |
Cod post | 391300 |
Tref yn Oblast Ryazan, Rwsia, yw Kasimov (Rwsieg: Касимов, Tatareg: Qasím, yn hanesyddol: Xankirmän, Gorodets Meschorsky, Novy Nizovoy). Canolfan weinyddol rhanbarth Kasimovsky yw hi. Mae'r dref ar ochr chwith yr Afon Oka. Trigolion gwreiddiol yr ardal oedd llwyth Finno-Ugraidd, y Meschiora, a gymathwyd yn ddiweddarach gan Rwsiaid a Tatariaid.
Sylfaenwyd y dref yn 1152 gan reolwr Vladimir-Suzdal, Yuriy Dolgorukiy fel Gorodets, wedyn Gorodets Meshchyorskiy (Rwsieg Городец Мещёрский). Dinistriwyd y dref gan y Mongoliaid yn 1376, ond fe'i hail-adeiladwyd fel Novyy Nizovoy (Isel Newydd, Rwseg Новый Низовой).
Yn dilyn Brwydr Suzdal yn 1445, pan garcharwyd Dug Mawr Vasili II, rhoddwyd tiroedd Meschiora i Olug Moxammat, khan Khanaeth Kazan' fel prdwerth am fywyd y Dug. Yn 1452, rhoddodd Dug Mawr Vasili II o Moscow y dref i Dywysog Kazan, Qasim Khan, a oedd yn arolygwr trethi y Llu Mawr, ond wedyn aeth i weithio dros y Rwsiaid. Ond yn ôl traddodiad arall, ffôdd Qasim gyda'i frawd Yosif o Kazan ar ôl iddo fethu yn ei ymdrech i ddiorseddu ei frawd Maxmud (Mäxmüd). Ar ôl 1471, enwyd y dref yn Dinas Qasím. Roedd y dref yn dal i fod yn brifddinas i Khanaeth Qasim tan 1681 pan ymgorfforwyd y khanaeth yn Rwsia ei hun.
Ailgyfanheddwyd grŵp o Datariaid yno yn y 15g, ac heddiw Tataraid Qasim y'u gelwir nhw. Maen nhw'n siarad tafodiaith Mishar ag elfennau tafodiaith Tatareg Canol.
Ers y 13g mae Kasimov yn ganolfan Islamaidd yn yr ardal. Roedd y ddinas yn rhan o ranbarth y Mishar Yort yn y Llu Euraidd.
Yn y 17g, rhannwyd y dref yn dair rhan:
- Yr Hen Dref (Rwsieg: Старый Посад, Tatareg: İske Bistä) a Tref Tatar (Rwsieg: Татарская слобода, Tatareg: Tatar Bistäse) o dan reolaeth khan Khanaeth Qasim a'r pendefigion Tataraidd;
- Tref Yamskoy (Rwsieg: Ямская слобода) Rwsiaid cyffredin o dan reolaeth Moscow;
- Tref Marffin (Rwsieg: Марфина слобода, Tatareg: Marfin Bistäse) – rhan o'r ddinas o dan reolaeth voevodâu Kasimov – llywodraethwyr Rwsiaid.
Poblogaeth:
Poblogaeth Kasimov yn siarad Tatareg:
Adeiladau hanesyddol:
- Mosg carreg Kasimov (1467)
- Mawsolewm Shahgali (Şahğäli) Khan (1555)
- Mawsolewm Afghan Moxammad (Äfğan Möxämmäd) Khan (1658)
- Eglwysi Uniongred Rwsiaid:
Cysylltiadau
[golygu | golygu cod]- Gwefan y dref Archifwyd 2005-10-20 yn y Peiriant Wayback mewn Rwseg (hysbys, mapiau, ffotograffau, fforwm)
- Lluniau o'r dref
Cyfieithiwyd yr erthygl hon o'r wreiddiol yn y tt:Tatar Encyclopaedia.
Mae erthygl hon yn cynnwys testun o'r Brokgaus-Efron Encyclopedia.
Cyfieithiad yr Wythnos oedd yr erthygl hon yn Ionawr 2005.