Karaez-Plougêr
Math | cymuned, anheddiad dynol |
---|---|
Poblogaeth | 7,240 |
Pennaeth llywodraeth | Christian Troadec, Christian Troadec |
Gefeilldref/i | Waldkappel |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Llydaw |
Arwynebedd | 25.81 km² |
Uwch y môr | 104 metr, 69 metr, 169 metr |
Yn ffinio gyda | Ar Vouster, Plevin, Trefrin, Kledenn-Poc'hêr, Kerglof, Motrev, Plonevell, Sant-Hern |
Cyfesurynnau | 48.2758°N 3.5744°W |
Cod post | 29270 |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Karaez-Plougêr |
Pennaeth y Llywodraeth | Christian Troadec, Christian Troadec |
Mae Karaez-Plougêr (Ffrangeg: Carhaix-Plouguer) yn gymuned yn Departamant Penn-ar-bed (Ffrangeg Finistère), Llydaw. Mae'n ffinio gyda Ar Vouster, Plevin, Trefrin, Cléden-Poher, Kergloff, Motreff, Plounévézel, Saint-Hernin ac mae ganddi boblogaeth o tua 7,240 (1 Ionawr 2021).
Yn yr erthygl hon, cyfieithir y termau brodorol kumunioù (Llydaweg) a communes (Ffrangeg) i "gymuned" yn Gymraeg.
Mae pencadlys Rhwydwaith Cydraddoldeb Ieithoedd Ewrop (ELEN) yn y dre, yn adeilad Ti ar Vro, 6 plasenn Gwirioù Mab-den. Mae gan ELEN 174 o aelod-sefydliadau yn cynrychioli 50 o ieithoedd mewn 25 gwladwriaeth.[1]
Poblogaeth
[golygu | golygu cod]Pellteroedd
[golygu | golygu cod]Ville | Montroulez | Gwengamp | Pondi | Kemper | An Oriant | Sant-Brieg | Brest | Gwened | Roazhon | Naoned | Le Mans | Paris |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
Pellter
Cyfeiriad |
39 km
(G) |
45 km
(G-Dd) |
50 km
(De) |
51 km
(De-O) |
61 km
(De) |
65 km
(G-Dd) |
69 km
(G-O) |
92 km
(De-Dd) |
141 km
(D) |
191 km
(De-Dd) |
282 km
(D) |
440 km
(D) |
Cysylltiadau Rhyngwladol
[golygu | golygu cod]Mae Karaez-Plougêr wedi'i gefeillio â:
Llydaweg
[golygu | golygu cod]Lansiodd y Karaez-Plougêr cynllun ieithyddol trwy Ya Brezhoneg ar 9 Ebrill, 2004. Mae gan y ddinas ysgol gynradd ac ysol uwchradd Diwan (sef yn yr unig Lycée Diwan yn Llydaw). Yn 2008, mynychodd 21.49% o blant ysgol gynradd ysgolion dwyieithog.[2]
Diwylliant
[golygu | golygu cod]Mae Karaez-Plougêr yn gartref i Gouel yn Kozh Erer; (Gŵyl yr Hen Erydr) sef ŵyl gerddorol fwyaf Ffrainc, gan ddenu mwy na 200,000 mynychwyr bob blwyddyn. Yn Hydref 2016 trefnodd yr ŵyl cyngerdd arbennig yn Central Park, Efrog Newydd mewn teyrnged i'r nifer o Lydäwyr a fewnfudodd i'r ddinas yn y 19g.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "ELEN". safle ELEN ar Facebook. Cyrchwyd 8 Awst 2024.
- ↑ (Ffrangeg) Ofis ar Brezhoneg: Enseignement bilingue