José Antonio Abreu
José Antonio Abreu | |
---|---|
Ganwyd | José Antonio Abreu Anselmi 7 Mai 1939 Valera |
Bu farw | 24 Mawrth 2018 Caracas |
Dinasyddiaeth | Feneswela |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | pianydd, economegydd, gwleidydd, cyfansoddwr, arweinydd, academydd |
Swydd | member of the Chamber of Deputies of Venezuela |
Cyflogwr | |
Arddull | cerddoriaeth glasurol |
Plaid Wleidyddol | Frente Nacional Democrático |
Gwobr/au | Gwobr 'Right Livelihood', Croes Swyddog Urdd Teilyngdod Gweriniaeth Ffederal yr Almaen, Urdd Francisco de Miranda, Gwobr Erasmus, Gwobr Glenn Gould, National Music Prize of Venezuela, Gwobr Tywysoges Asturias am y Celfyddydau, Prif Ruban Urdd y Wawr, Gwobr Polar Music, Officier de la Légion d'honneur, Marchog Uwch-Groes Urdd Teilyngdod Gweriniaeth yr Eidal, Latin Grammy Trustees Award, honorary doctor of the Chopin University of Music, Frankfurter Musikpreis |
Cerddor ac arweinydd cerddorfa o Feneswela oedd José Antonio Abreu Anselmi (7 Mai 1939 – 24 Mawrth 2018) a oedd hefyd yn economegydd, addysgwr, actifydd, a gwleidydd. Mae'n fwyaf adnabyddus ynghlŷn ag El Sistema, a oedd yn gynllun byd-enwog i hybu addysg gerddorol.
Gweithiodd fel athro economeg a chynllunio mewn gwahanol brifysgolion, a bu'n ddirprwy yng Nghyngres Feneswela. Gwasanaethodd fel Gweinidog Diwylliant Feneswela o 1988 i 1993. Ym 1975 sefydlodd Gerddorfa Symffoni Ieuenctid Genedlaethol Feneswela. Arweiniodd llwyddiant y gerddorfa hon at fwy o gerddorfeydd ieuenctid, gan arwain at El Sistema. Roedd ganddo'r weledigaeth i fynd i’r afael â phroblemau cymdeithasol a thlodi drwy roi offeryn cerdd i blant a’u dysgu i chwarae mewn cerddorfa symffoni. Trwy gyflwyno pobl ifanc o deuluoedd tlawd i fyd cerddoriaeth, ceisiodd gynnig rhagolygon amgen iddynt.
Sefydlodd Cerddorfa Symffoni Simón Bolîvar ym 1978.
Gwobrau
[golygu | golygu cod]Enillodd Abreu nifer o wobrau rhyngwladol, gan gynnwys Gwobr Erasmus yn 2010.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) "All Laureates: José Antonio Abreu". Praemium Erasmianum Foundation. Cyrchwyd 23 Awst 2022.