Neidio i'r cynnwys

Jonathan Davies (chwaraewr rygbi - ganwyd 1988)

Oddi ar Wicipedia
Jonathan Davies
Ganwyd5 Ebrill 1988 Edit this on Wikidata
Solihull Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethchwaraewr rygbi'r undeb Edit this on Wikidata
Taldra186 centimetr Edit this on Wikidata
Pwysau103 cilogram Edit this on Wikidata
Chwaraeon
Tîm/auY Scarlets, Clwb Rygbi Llanelli, ASM Clermont Auvergne, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru, Y Llewod Prydeinig a Gwyddelig, Tîm rygbi'r undeb cenedlaethol Cymru dan 20 oed, Y Scarlets Edit this on Wikidata
SafleCanolwr Edit this on Wikidata

Cyn-chwaraewr rygbi'r undeb rhyngwladol, yw Jonathan Davies (ganwyd 5 Ebrill 1988). Roedd yn chwarae yn safle'r canolwr dros dîm Cymru a chlwb Scarlets Llanelli.

Bywyd cynnar ac addysg

[golygu | golygu cod]

Ganwyd Jonathan Davies yn Solihull yng Ngorllewin Canolbarth Lloegr, ond ymfudodd ei deulu i Fancyfelin, Sanclêr, Sir Gaerfyrddin pan oedd yn ifanc. Roedd ei rieni yn rhedeg tafarn y Fox and Hounds pub ym Mancyfelin a felly cafodd y llysenw 'Fox'.[1]

Mynychodd Ysgol Gyfun Dyffryn Tâf, yn Hendy-gwyn ar Daf, cyn cychwyn cwrs Ffitrwydd a Chwaraeon yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae'n siarad Cymraeg yn rhugl.[2]

Gyrfa clwb

[golygu | golygu cod]

Cychwynodd Jonathan Davies ei yrfa fel aelod ifanc o academi y Scarlets. Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Glwb Rygbi Llanelli cyn cael ei ddyrchafu i ranbarth y Sgarlets yn 2006. Sgoriodd ei gais cyntaf i'r tîm yn erbyn Connacht ym Medi 2007. Gadawodd y Sgarlets ar ddiwedd tymor 2024 wedi sgorio 55 o geisiau gan ymddangos 209 o weithiau i'r tîm.[3]

Gyrfa ryngwladol

[golygu | golygu cod]

Cynhwyswyd Jonathan Davies yng ngharfan Cymru ar gyfer y daith i Ogledd America yn 2009. Chwaraeodd ei gem gyntaf dros Gymru yn erbyn Canada ym Mai 2009. Sgoriodd ddau gais yn erbyn Unol Daleithiau America.

Chwaraeodd Davies fel canolwr allanol Cymru i bartneru gyda Jamie Roberts yn safle'r canolwr mewnol yn Nhachwedd 2009 yn erbyn yr Ariannin. Yn Ionawr 2010, enwyd Davies yn ngharfan Cymru ar gyfer Pencapwriaeth y Chwe Gwlad 2010, ond ni chafodd ei ddewis i chwarae yn unrhyw un o'r gemau.

Ffurfiodd Davies bartneriaeth cryf gyda'r maswr James Hook a'r canolwr Jamie Roberts ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad yn 2011.[4]

Cyhoeddodd ei ymddeoliad o rygbi proffesiynol ar 13 Hydref 2024. Yn ystod ei yrfa enillodd 96 o gapiau i Gymru a chafodd ei ddewis ddwywaith i fynd ar deithiau'r Llewod.[5]

Cwpan y Byd, 2011

[golygu | golygu cod]

Chwaraeodd Davies dros Gymru ym mhob un o'u saith gem yng Nghystadleuaeth Cwpan y Byd 2011, Seland Newydd. Sgoriodd gyfanswm o dri cais yn ystod y gystadleuaeth, yn erbyn Namibia, Ffiji ac Iwerddon.

Bywyd personol

[golygu | golygu cod]

Ar wahan i chwarae rygbi, mae Jonathan Davies yn mwynhau caiacio a chwarae criced.[2]

Fe'i urddwyd i'r wisg las yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy 2019 gan ddewis yr enw barddol 'Jon Cadno'.[6]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Jonathan Davies: Ten things you should know about the Wales centre". Rugby World (yn Saesneg). 2022-03-11. Cyrchwyd 2024-10-13.
  2. 2.0 2.1 "Bywgraffiad ar Wefan Scarlets Llanelli". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-12. Cyrchwyd 2011-10-24.
  3. "Jonathan Davies i adael y Scarlets". newyddion.s4c.cymru. 2024-10-13. Cyrchwyd 2024-10-13.
  4. Gwefan BBC - Jonathan Davies yn hapus wrth ochr James Hook
  5. "Jonathan Davies yn ymddeol o rygbi proffesiynol". BBC Cymru Fyw. 2024-10-13. Cyrchwyd 2024-10-13.
  6. "Urddo Cadno, Siryf a Chyfryngfab i Orsedd y Beirdd". BBC Cymru Fyw. 2019-08-05. Cyrchwyd 2024-10-13.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]