Johnny Nash
Gwedd
Johnny Nash | |
---|---|
Ganwyd | John Lester Nash Jr. 19 Awst 1940 Houston |
Bu farw | 6 Hydref 2020 Houston |
Label recordio | Epic Records, ABC Records, JAD Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, actor, cerddor, cyfansoddwr caneuon |
Arddull | reggae |
Math o lais | tenor |
Gwefan | https://johnnynash.com/ |
Roedd John Lester Nash Jr. (19 Awst 1940 – 6 Hydref 2020) yn ganwr ac actor Americanaidd, sy'n fwyaf adnabyddus yn yr UDA am ei sengl 1972, "I Can See Clearly Now".[1] Cyrhaeddodd rif 1 yn siartiau'r DU gyda Tears on my Pillow (1975).
Bywyd
[golygu | golygu cod]Cafodd ei eni yn Houston, Texas, yn fab i Eliza (Armstrong) a John Lester Nash. Roedd yn aelod o gôr yr eglwys.[2] Dechreuodd ei yrfa ar y radio ym 1953.[2][3]
Rhyddhawyd ei record cyntaf, "A Teenager Sings the Blues", ym 1957. Dechreuodd label recordio yn Kingston, Jamaica, ym 1967.
Roedd ganddo ddau o blant gyda'i wraig Carli.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Colin Larkin, gol. (1997). The Virgin Encyclopedia of Popular Music (arg. Concise). Virgin Books. t. 889. ISBN 1-85227-745-9.
- ↑ 2.0 2.1 Milkowski, Holly (22 Chwefror 2011). "Black History Month Profile: Johnny Nash Jr". Houston Chronicle. Cyrchwyd 5 Mehefin 2020.
- ↑ Ankeny, Jason. "Johnny Nash Biography". allmusic. Cyrchwyd 5 Mehefin 2020.