John Lloyd Davies
John Lloyd Davies | |
---|---|
Ganwyd | 1 Tachwedd 1801 Aberystwyth |
Bu farw | 21 Mawrth 1860 Llandysul |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Aelod o 16eg Senedd y Deyrnas Unedig |
Roedd John Lloyd Davies (1 Tachwedd 1801 – 21 Mawrth 1860) yn gyfreithiwr ac yn wleidydd Cymreig a wasanaethodd fel Aelod Seneddol Ceidwadol Aberteifi rhwng 1855 a 1857[1]
Bywyd Personol
[golygu | golygu cod]Ganwyd Davies yn Aberystwyth yn fab i Thomas Davies.
Bu’n briod ddwywaith. Ym 1825 priododd Anne unig blentyn John Lloyd, ystâd Alltyrodyn, Bangor Teifi, bu iddynt un mab. Bu Anne farw ar 9 Rhagfyr 1853[2]. Ym 1857 priododd Elizabeth Bluett merch Thomas Bluett Hardwick o Tytherington Grange, Swydd Gaerloyw, bu iddynt dau fab.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu Davies yn gweithio fel clerc dan erthyglau yn Aberystwyth, roedd bod yn glerc dan erthyglau yn brentisiaeth ar gyfer cymhwyso fel cyfreithiwr. Wedi cymhwyso symudodd i Gastellnewydd Emlyn i gychwyn cwmni cyfreithiol.
Trwy ei briodasau daeth yn sgweier ar ystadau Alltyrodyn ac wedyn Tytherington Grange.
Bu’n ynad heddwch ar feinciau siroedd Caerfyrddin a Cheredigion. Fel tirfeddiannwr ac ynad heddwch bu’n un o wrthwynebwyr pennaf ymgyrch Beca yn ardal Llandysul.
Bu’n gyfarwyddwr Cwmni Rheilffordd Caerfyrddin ac Aberteifi a oedd yn ceisio adeiladu cysylltiad rheilffordd i’r ddwy dref [3].
Gyrfa Wleidyddol
[golygu | golygu cod]Wedi marwolaeth Pryse Loveden, AS Rhyddfrydol Aberteifi, ym 1855 bu isetholiad i ethol olynydd iddo. Safodd John Evans ar ran y Rhyddfrydwyr a Davies ar ran y Ceidwadwyr. Yn annisgwyl enillodd Davies o drwch y blewyn[4].
Isetholiad Bwrdeistrefi Aberteifi 1855 [5]
nifer etholwyr = 849 | |||||
---|---|---|---|---|---|
Plaid | Ymgeisydd | Pleidleisiau | % | ±% | |
Ceidwadwyr | John Lloyd Davies | 298 | 51.1 | ||
Rhyddfrydol | John Evans | 286 | 48.9 | ||
Mwyafrif | 12 | ||||
Ceidwadwyr yn disodli Rhyddfrydol | Gogwydd |
Penderfynodd beidio ag amddiffyn y sedd yn etholiad cyffredinol 1857. Y ddau beth mwyaf nodweddiadol am ei gyfnod byr yn y senedd oedd ymgais i ddiwygio deddfau pwysau a mesur y DU er mwyn cyflwyno system ddegol[6][7] a’i wrthwynebiad llwyddiannus i’r syniad o symud Coleg Dewi Sant o Lanbedr i Aberhonddu[8].
Gwasanaethodd fel Uchel Siryf Ceredigion ym 1845
Marwolaeth
[golygu | golygu cod]Bu farw yn ei gartref, Blaendyffryn, Llandysul yn 59 mlwydd oed [9].
Mae gan Wicidestun destun sy'n berthnasol i'r erthygl hon: |
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur: DAVIES, JOHN LLOYD ( 1801 - 1860 ), Blaendyffryn ac Alltyrodyn, Llandysul, aelod seneddol adalwyd 7 Medi 2017
- ↑ "Family Notices - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1853-12-16. Cyrchwyd 2017-09-06.
- ↑ "CARMARTHEN AND CARDIGAN RAILWAY COMPANY - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1856-02-29. Cyrchwyd 2017-09-06.
- ↑ Williams, William Retlaw, The parliamentary history of the Principality of Wales, from the earliest times to the present day, 1541-1895 adalwyd 6 Medi 2017
- ↑ Cardigan Election yn Pembrokeshire Herald and General Advertiser 2 Mawrth 1855 http://papuraunewyddcymru.llgc.org.uk/cy/page/view/3054378/ART48 adalwyd 7 Ion 2014
- ↑ Hansard Tŷ'r Cyffredin 12 Chwefror 1857 cyf 144 cc589-93 Archifwyd 2017-03-12 yn y Peiriant Wayback adalwyd 6 Medi 2017
- ↑ "TY Y CYFFREDIN CHWEF12 - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1857-02-21. Cyrchwyd 2017-09-06.
- ↑ "ST DAVIDS COLLEGE LAMPETER - The Welshman". J. L. Brigstocke. 1855-12-14. Cyrchwyd 2017-09-06.
- ↑ "FamilyNotices - Seren Cymru". William Morgan Evans. 1860-04-06. Cyrchwyd 2017-09-06.
Senedd y Deyrnas Unedig | ||
---|---|---|
Rhagflaenydd: Pryse Loveden |
Aelod Seneddol Aberteifi 1855 – 1857 |
Olynydd: Edward Lewis Pryse |