John Gwyn Griffiths
John Gwyn Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 7 Rhagfyr 1911 y Porth |
Bu farw | 15 Mehefin 2004 Abertawe |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, ysgolhaig clasurol, eifftolegydd |
Cyflogwr | |
Priod | Kate Bosse-Griffiths |
Plant | Robat Gruffudd, Heini Gruffudd |
Roedd John Gwyn Griffiths (enw llawn: John Gwynedd Griffiths; 7 Rhagfyr 1911 - 15 Mehefin 2004) yn ysgolhaig, yn feirniad, yn olygydd ac yn genedlaetholwr Cymreig a aned yn y Porth, y Rhondda.[1]
Bywgraffiad
[golygu | golygu cod]Cyhoeddodd J. Gwyn Griffiths astudiaethau ar destunau Groeg a Lladin ac ar grefydd yr Aifft. Bu'n athro yn y Clasuron ac Eifftoleg yng ngholeg Prifysgol Cymru, Abertawe.
Roedd yn fab i'r Parchedig Robert Griffiths, gweinidog gyda'r Bedyddwyr yn eglwys Moreia, yn y Pentre, Rhondda. Cafodd ei addysg yn Ysgol Sir y Bechgyn, yn y Porth, graddio mewn Lladin a Groeg yng Ngholeg y Brifysgol, Caerdydd. Yna astudiodd Eiffteg a Hebraeg ym Mhrifysgol Lerpwl am dair blynedd, cyn bod yn fyfyriwr ymchwil yn Rhydychen. Bu'n athro Lladin yn ei hen ysgol yn y Porth ac yn y Bala cyn cael ei apwyntio yn 1946 yn ddarlithydd cynorthwyol yn Adran y Clasuron yng Ngholeg y Brifysgol, Abertawe.
Roedd yn llenor ac yn un o sylfaenwyr Cylch Cadwgan gan gyhoeddi cyfrolau o farddonaieth ac astudiaethau llenyddol. Roedd yn genedlaetholwr brwd a safodd etholiadau dros Blaid Cymru.
Roedd yn briod â'r llenor a'r arbenigwraig ar Eifftoleg, sef Kate Bosse Griffiths a chawsant ddau fab, yr awduron Robat Gruffudd (ganwyd 1943), sefydlydd Gwasg y Lolfa, a Heini Gruffudd (ganwyd 1946), awdurdod ar ddysgu'r Gymraeg i oedolion ac ymgyrchydd brwd.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Conflict of Horus and Seth (1961)
- Origins of Osiris (1966)
- Plutarch's de Iside et Osiride (1970)
- Metamorphoses, Apuleius (1975)
- The Origins of Osiris and Isis Cult (1980)
- The Divine Verdict (1991)
- Barddoneg Aristoteles (1978, 2001) - cyfieithiad o Barddoneg gan Aristoteles
- barddoniaeth:
- Yr Efengyl Dywyll (1944)
- Ffroenau'r Ddraig (1961)
- Cerddi Cairo (1969)
- Cerddi'r Holl Eneidiau (1981)
- Anarchistiaeth (1944)
- Y Patrwm Cydwladol (1949)
- I Ganol y Frwydr (1970)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Y Bywgraffiadur Cymreig Arlein; Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Llith goffa gan Heini Griffiths (darllenwyd 9 Gorffennaf 2006)
- Meic Stevens ar wefan BBC Cymru (darllenwyd 9 Gorffennaf 2006)