Neidio i'r cynnwys

John Forbes Nash, Jr.

Oddi ar Wicipedia
John Forbes Nash, Jr.
Ganwyd13 Mehefin 1928 Edit this on Wikidata
Bluefield Edit this on Wikidata
Bu farw23 Mai 2015 Edit this on Wikidata
o damwain car Edit this on Wikidata
Monroe Township Edit this on Wikidata
Man preswylWest Windsor Township Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner UDA UDA
Addysggradd baglor, Doethur mewn Athrawiaeth Edit this on Wikidata
Alma mater
ymgynghorydd y doethor
  • Albert W. Tucker Edit this on Wikidata
Galwedigaethmathemategydd, economegydd, academydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Adnabyddus amcydbwysedd Nash, Nash blowing-up, Nash embedding theorem, Nash–Moser theorem, Nash–Kuiper theorem, Nash-Williams theorem, Hilbert's nineteenth problem, Nash functions Edit this on Wikidata
TadJohn Forbes Nash, Sr. Edit this on Wikidata
PriodAlicia Nash, Alicia Nash Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Economeg Nobel, Gwobr Damcaniaeth John von Neumann, Gwobr Abel, doethuriaeth anrhydeddus o Brifysgol Genedlaethol Kapodistrian, Athen, Cymrawd y Gymdeithas Econometrig, Steele Prize for Seminal Contribution to Research, honorary doctor of the Hong Kong Polytechnic University, Fellow of the American Mathematical Society Edit this on Wikidata
llofnod

Mathemategydd o'r Unol Daleithiau oedd John Forbes Nash, Jr. (13 Mehefin 192823 Mai 2015). Enillodd Wobr Economeg Nobel ym 1994, gyda Reinhard Selten a John Harsanyi, am ei waith arloesol mewn damcaniaeth gemau. Roedd yn byw gyda chyflwr sgitsoffrenia.[1][2][3][4]

Bywyd Cynnar

[golygu | golygu cod]

Cafodd Nash ei eni ar 13 Mehefin, 1928, yn Bluefield, West Virginia. Roedd ei dad, John Forbes Nash Sr, yn beiriannydd trydanol a'i fam Margaret Virginia (née Martin) yn athrawes cyn priodi.

Addysg

[golygu | golygu cod]

Enillodd ysgoloriaeth Westinghouse i astudio yn Sefydliad Technoleg Carnegie gan raddio gyda Bagloriaeth yn y Gwyddorau a gradd Meistr ym 1948. O Pittsburgh aeth i Brifysgol Princeton lle bu'n gweithio ar ei ddamcaniaeth cydbwysedd. Cafodd Ph.D. ym 1950 gyda thraethawd hir ar gemau nad ydynt yn gydweithredol. Roedd ei draethawd ymchwil, a ysgrifennwyd dan oruchwyliaeth Albert W. Tucker, yn cynnwys priodweddau'r hyn a fyddai'n cael eu hadnabod yn niweddarach fel ecwilibriwm Nash.

Tra'n fyfyriwr cafodd ei benodi yn ymchwilydd ran amser gyda'r RAND Corporation (melin drafod ddielw sydd yn cynnig ymchwil a dadansoddiad i Luoedd Arfog yr Unol Daleithiau), ond wedi cael ei arestio am ddinoethi anweddus mewn ymgyrch erlyn gwrywgydwyr yn Santa Monica, collodd e'i gliriad diogelwch a chafodd ei ddiswyddo gan RAND Corporation, er i'r cyhuddiadau yn ei erbyn cael eu gollwng yn y pendraw.

Ym 1951 cafodd Nash ei benodi fel athro yn adran mathemateg Sefydliad Technoleg Massachusetts (MIT).

Cyhoeddodd nifer o bapurau academaidd o bwys yn ystod y cyfnod, gan gynnwys:

  • "Equilibrium Points in N-person Games", cyhoeddwyd yn Proceedings of the National Academy of Sciences (USA) (1950);
  • "The Bargaining Problem" (1950) yn Econometrica
  • "Two-person Cooperative Games" (1953), yn Econometrica.
  • "Real algebraic manifolds", (1952) Ann. Math. 56 (1952), 405 – 421.

Bywyd Personol

[golygu | golygu cod]

Bu Nash mewn perthynas all briodasol gyda Eleanor Stier, nyrs a fu'n gofalu am dano, cawsant fab, John David Stier, ond torrodd y berthynas ar ôl i Nash cael gwybod ei bod hi'n feichiog[5].

Ym 1957 priododd Alicia Lopez-Harrison de Lardé, bu iddynt un mab. Cawsant ysgariad ym 1963 oherwydd y pwysau a rhoddwyd ar y briodas gan salwch Nash, ond pan nad oedd yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty roedd yn parhau i fyw gyda hi fel byrddiwr. Ail ymbriodasant yn 2001.

Salwch

[golygu | golygu cod]

Tua diwedd y 1950au dechreuodd Nash dangos symptomau o baranoia, roedd yn credu bod pawb a wisgai tei coch yn Gomiwnydd a oedd yn cynllwyno yn ei erbyn a bu'n ysgrifennu llythyrau i Lysgenhadon Tramor yn yr UDA yn eu cyhuddo o geisio dymchwel llywodraeth yr UDA . Bu i broblemau seicolegol Nash croesi i mewn i'w bywyd proffesiynol wrth roi darlith y Gymdeithas Mathemategol Americanaidd ym Mhrifysgol Columbia yn 1959. Er bod y ddarlith i fod ar bwnc Damcaniaeth Riemann, roedd yn gwbl annealladwy, daeth ei gydweithwyr yn y gynulleidfa i sylweddoli ar unwaith bod rhywbeth mawr o'i le. Cafodd ei ddanfon i ysbyty seiciatrig yn fuan wedyn lle canfuwyd ei fod yn ddioddef o sgitsoffrenia, a bu mewn ac allan o'r ysbyty hyd 1970.

Cydnabyddiaeth

[golygu | golygu cod]

Er i'r dyn ei hun cael ei anghofio wedi ei draddodiad i'r ysbyty meddwl roedd ei ddoethuriaeth a'i bapurau yn cael eu dyfynnu'n aml mewn gweithiau academaidd. Gyda dyfodiad y we, dechreuodd Nash ymuno â fforymau e-bost ar fathemateg yn niwedd y 1980au, a sylweddolodd aelodau'r fforymau eu bod yn cyd-drafod efo Y John Nash o'r 1950au, yr oeddent wedi ei ddyfynnu yn eu traethodau doethur hwy; gan hynny bu ymgyrch i gydnabod ei waith a'i gyfraniad a arweiniodd at ddyfarnu Gwobr Nobel yr Economi iddo ym 1994.

Derbyniodd Nash Doethuriaeth mewn Gwyddoniaeth a Thechnoleg, er anrhydedd, o Brifysgol Carnegie Mellon ym 1999, gradd er anrhydedd mewn Economeg o Brifysgol Napoli Federico II yn 2003; Doethuriaeth er anrhydedd mewn economeg o Brifysgol Antwerp yn 2007. Yn 2012 cafodd ei ethol yn gymrawd o Gymdeithas Mathemategol America. Ar 19 Mai, 2015, Cyflwynwyd iddo Wobr Abel 2015 gan y Brenin Harald V o Norwy mewn seremoni yn Oslo.

Cydnabyddiaeth ddiwylliannol

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddodd Sylvia Nasar bywgraffiad o Nash, A Beautiful Mind, a gyhoeddwyd yn 1998. Cafodd ffilm o'r un enw wedi ei selio ar y llyfr ei ryddhau yn 2001, wedi ei gyfarwyddo gan Ron Howard a gyda Russell Crowe yn chwarae rhan Nash.

Marwolaeth

[golygu | golygu cod]

Bu farw Nash a'i wraig Alicia mewn damwain modur yn New Jersey 23 Mai, 2015[6]; roedd yn 86 mlwydd oed.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]
Comin Wikimedia
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Nash, John F. (May 1950) Non-Cooperative Games, PhD Thesis, Princeton University.
  2. "Oscar race scrutinizes movies based on true stories". USA Today. March 6, 2002. Cyrchwyd January 22, 2008.
  3. "List of Oscar Winners". USA Today. March 25, 2002. Cyrchwyd August 30, 2008.
  4. Yuhas, Daisy. "Throughout History, Defining Schizophrenia Has Remained A Challenge (Timeline)". Scientific American Mind. Cyrchwyd March 2, 2013.
  5. Goldstein, Scott (April 10, 2005) Eleanor Stier, 84; Brookline nurse had son with Nobel laureate mathematician John F. Nash Jr., Boston.com News.
  6. John Nash: Tributes to 'Beautiful Mind' mathematician Newyddion BBC [1] adalwyd 25 mai 2015