John Cambrian Rowland
John Cambrian Rowland | |
---|---|
Ganwyd | 7 Rhagfyr 1819 Lledrod |
Bu farw | 1890 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | arlunydd |
Arlunydd oedd John Cambrian Rowland (7 Rhagfyr 1819 – 1890). Ganwyd yn Lledrod, Ceredigion yn fab i Thomas Rowlands.
Mae'n debyg taw ef oedd yr artist proffesiynol cyntaf i fyw yn Aberystwyth.
Yr enghraifft cynharaf o'i waith sydd ar gael i'w amlinelliad o John Williams (Shon Sgubor) a greodd yn 1839, ac a gyhoeddwyd yn Cymru, cyfrol 15 (1898), t.113. Mae portread arall ganddo o'r Parch John Hughes, wedi ei gadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.
Cofir yn bennaf am John Cambrian Rowland am ei bortreadau o wisgoedd Cymreig - cyhoeddwyd nifer o'r rhain ganddo yn 1848. Daeth rhain yn ddelweddau amlwg sy'n cyfleu bywyd Cymru yn y 19g. Mae cynnwys ei ddarluniau'n awgrymu iddo ymsefydlu yng ngogledd Cymru, ac mae awgrym mewn un bywgraffiad iddo gael ei benodi'n hyfforddwr celf Coleg Hyfforddi Eglwys Caernarfon.
Llyfryddiaeth
[golygu | golygu cod]- Paul Joyner, Artists in Wales c.1740-c.1851, t. 110