Jazz Richards
Richards yn chwarae i Abertawe yn 2013 | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Ashley Darel "Jazz" Richards | ||
Dyddiad geni | 12 Ebrill 1991 | ||
Man geni | Abertawe, Cymru | ||
Taldra | 6 tr 1 modf (1.85 m) | ||
Safle | Amddiffynnwr/Cefnwr/Canolwr | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Abertawe | ||
Rhif | 29 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
2005–2007 | Caerdydd | ||
2007–2009 | Abertawe | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2009– | Abertawe | 39 | (0) |
2013 | → Crystal Palace (benthyg) | 11 | (0) |
2013 | → Huddersfield Town (benthyg) | 9 | (0) |
2015 | → Fulham (ar fenthyg) | 14 | (0) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2007–2008 | Cymru dan 17 | 10 | (0) |
2008–2009 | Cymru dan 19 | 11 | (0) |
2009–2012 | Cymru dan 21 | 15 | (0) |
2012– | Cymru | 5 | (0) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 24 Mai 2015 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). |
Chwaraewr pêl-droed Cymreig yw Jazz Richards (ganwyd Ashley Darel Jazz Richards 12 Ebrill 1991). Mae'n chwarae fel amddiffynnwr i Fulham, a thîm cenedlaethol Cymru.
Gyrfa clwb
[golygu | golygu cod]Abertawe
[golygu | golygu cod]Gwnaeth Richards ei ymddangosiad cynytaf i Abertawe yn 18 mlwydd oed mewn gêm yn Y Bencampwriaeth yn erbyn Middlesbrough ar 15 Awst 2009[1]. Ar ddiwedd y tymor, ar ôl 15 ymddangosiad yn y tîm cyntaf, cafodd ei enwebu'n Chwaraewr Ifanc y Flwyddyn ac arwyddodd gytundeb dwy flynedd gyda'r clwb[2].
Ar 15 Hydref 2011, chwaraeodd Richards ei gêm gyntaf yn Uwch Gynghrair Lloegr[3] ond er ymestyn ei gytundeb ymhellach, ymunodd Richards â Crystal Palace ar fenthyg yn Ionawr 2013[4] gan helpu'r clwb o Lundain i sicrhau dyrchafiad i'r Uwch Gynghrair ar ddiwedd y tymor.
Ar ôl dychwelyd i Abertawe, aeth ar fenthyg unwaith eto ym Medi 2013 gan ymuno â Huddersfield Town am dri mis.
Fulham
[golygu | golygu cod]Yng Ngorffennaf 2015, ar ôl cyfnod ar fenthyg gyda Fulham[5][6], ymunodd Richards â'r clwb o orllewin Llundain yn barhaol[7].
Gyrfa ryngwladol
[golygu | golygu cod]Ar ôl cynrychioli timau dan 17, dan 19 a dan 21 Cymru, gwnaeth Richards ei ymddangosiad cyntaf dros Gymru mewn gêm gyfeillgar yn erbyn Mecsico ar 27 Mai 2012[8].
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Swansea 0–3 Middlesbrough". BBC Sport. BBCSport. 2009-08-15.
- ↑ "Ashley Richards signs new Swansea deal". BBCSport. BBCSport.
- ↑ "Jazz Richards rewarded with new Swansea City contract". BBCSport. BBC Sport.
- ↑ "Crystal Palace sign Swansea's Ashley Richards on loan". BBCSport. BBC Sport.
- ↑ "Jazz joins Fulham on loan". swanseacity.net. 2015-01-24. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-25. Cyrchwyd 2016-01-04.
- ↑ "Jazz extends Fulham loan for remainder of season". Swansea City A.F.C. 2015-02-25. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-01-25. Cyrchwyd 2016-01-04.
- ↑ "Jazz Joins Fulham". Fulham. Cyrchwyd 2015-07-02.
- ↑ "Mexico 2-0 Wales". welshfootballonline.com. Unknown parameter
|published=
ignored (help)