Iwan Edwards
Gwedd
Iwan Edwards | |
---|---|
Ganwyd | 5 Hydref 1937 Cymru |
Bu farw | 4 Mawrth 2022 Lachine |
Dinasyddiaeth | Cymru Canada |
Alma mater | |
Galwedigaeth | arweinydd, cyfarwyddwr côr |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Aelod yr Urdd Canada |
Arweinydd corawl Cymreig-Canadaidd oedd Iwan Edwards CM (5 Hydref 1937 – 4 Mawrth 2022). Dros deugain mlynedd sefydlodd ac arweiniodd nifer o gorau. Roedd e'n Aelod o Urdd Canada ers 1995. [1]
Cafodd Edwards ei eni yng Nghymru.[2] Astudiodd gerddoriaeth yng Ngholeg Prifysgol Cymru, a graddiodd ym 1961. Gadawodd Edwards Gymru yn 1965 ac symud i Ganada lle roedd e'n byw ym Montréal.[2] Roedd Edwards yn briod ag Undeg. Gyda'i gilydd, bu iddynt ddau o blant.[3]
Roedd Edwards yn arweinydd gwadd Côr Cenedlaethol Ieuenctid Canada ym 1998-1999. Daeth yn Gyfarwyddwr Artistig ac yn Arweinydd Côr Siambr Canada.[4]
Bu farw Edwards fore 4 Mawrth 2022, yn ei gartref yn Lachine, Canada, yn 84 oed.[2][5]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Iwan Edwards at 60". La Scena Musicale 3 (2). October 1, 1997. http://www.scena.org/lsm/sm3-2/SM3-2ED.htm. Adalwyd 8 March 2022.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 Dunlevy, T'Cha (5 Mawrth 2022). "Obituary: Montreal choir conductor Iwan Edwards's 'passion was limitless'". Montreal Gazette. Cyrchwyd 7 Mawrth 2022.
- ↑ Kaptainis, Arthur (29 Tachwedd 2014). "A Legacy of Choral Music". Montreal Gazette (yn Saesneg). Cyrchwyd 7 Mawrth 2022.
- ↑ "Canadian Chamber Choir - Chœur de chambre du Canada - About". www.canadianchamberchoir.ca (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-03-08. Cyrchwyd 8 Mawrth 2022.
- ↑ Rowat, Robert (4 Mawrth 2022). "Iwan Edwards, Montreal choral conductor and teacher, dead at 84" (yn Saesneg). CBC News. Cyrchwyd 7 Mawrth 2022.