Isabel Crook
Isabel Crook | |
---|---|
Ganwyd | 15 Rhagfyr 1915 Chengdu |
Bu farw | 20 Awst 2023 Beijing |
Gwobr/au | Friendship Medal |
Anthropolegydd o Ganada oedd Isabel Crook (15 Rhagfyr 1915 – 20 Awst 2023) a drigodd yn Tsieina am y rhan fwyaf o'i hoes.
Ganed Isabel Brown yn Chengdu, yn nhalaith Sichuan, tridiau wedi sefydlu Ymerodraeth Tsieina, yn ystod cyfnod hynod o gythryblus yn y wlad. Cenhadon Methodistaidd o Ganada oedd ei rhieni, Homer Brown a Muriel Hockey, a gyfarfu yn Chengdu, a phriodasant ym 1915. Mynychodd Isabel a'i ddwy chwaer yr ysgol Ganadaidd yn Chengdu cyn symud i Ganada. Wedi iddi raddio o Goleg Victoria, Prifysgol Toronto, ym 1939, dychwelodd Isabel i Tsieina i wneud gwaith maes ym mhentrefi'r bobl Yi yng ngorllewin Sichuan, cymdeithas o gaethwasiaeth a siamaniaeth.[1]
Ym 1940, ymunodd â phrosiect gan Gyngor Cristnogol Cenedlaethol Tsieina i adfer ardal wledig ar gyrion Chongqing, gyda'r gorchwyl o gynnal arolwg o'r trigolion. Casglodd Isabel filoedd o dudalennau o ddata am y boblogaeth leol, a'i bwriad oedd i ysgrifennu llyfr, ond rhoddwyd taw ar ei gwaith gan yr Ail Ryfel Byd a chamau ola'r chwyldro comiwnyddol. Yn ei henaint, yn y 1990au, dychwelodd i'r ardal i wneud rhagor o ymchwil, a chyhoeddwyd ei chyfrol Prosperity's Predicament o'r diwedd yn 2013.[1]
Cyfarfu Isabel â David Crook, Prydeiniwr ac ysbïwr i'r Undeb Sofietaidd, yn Chongqing ym 1941. Symudodd y ddau ohonynt i Loegr i briodi, ac yno ymunodd Isabel â'r Blaid Gomiwnyddol. Enillodd ei doethuriaeth o Ysgol Economeg Llundain. Wedi diwedd yr Ail Ryfel Byd, dychwelasant i Tsieina, pan oedd trobwynt yn y rhyfel cartref. Erbyn 1949, gyrrwyd lluoedd Chiang Kai-shek ar ffo a chipiwyd Beijing gan Mao Tse-tung, gan sefydlu felly Gweriniaeth Pobl Tsieina.
Gweithiodd Isabel unwaith eto yng nghefn gwlad, ym mhentref Shilidian, yn astudio bywydau'r gwerinwyr a'u hymdrechion i addasu i'r drefn gomiwnyddol newydd, a chyda chymorth David cyhoeddodd y gyfrol Revolution in a Chinese Village: Ten Mile Inn (1959), un o brif weithiau academaidd yr oes i ymdrin â diwygio tir yn Tsieina. Wedi buddugoliaeth y comiwnyddion, gwahoddwyd y cwpl gan y llywodraeth i adfer Prifysgol Astudiaethau Tramor Beijing, yr ysgol ieithoedd tramor i hyfforddi diplomyddion. Dychwelodd Isabel a David i Shilidian ym 1959–60 i fyw mewn cymuned sosialaidd, a chefnogodd y cwpl bolisïau'r Naid Fawr Ymlaen. Ffrwyth eu profiad oedd y gyfrol The First Years of Yangyi Commune (1966).
Cyhuddwyd David Crook o ysbïo yn ystod y Chwyldro Diwylliannol, a fe'i carcharwyd am bum mlynedd, o 1968 i 1973. Cafodd Isabel ei chyfyngu i gampws y Brifysgol Astudiaethau Tramor am dair blynedd, o 1970 i 1973. Cawsant eu hailsefydlu gan y Prif Weinidog Zhou Enlai, a byddai'r ddau ohonynt yn ymlynu â'r llywodraeth wedi marwolaeth Mao ym 1976, hyd nes iddynt siarad yn gyhoeddus yn erbyn yr ymateb i brotestiadau Sgwâr Tiananmen ym 1989.[1]
Bu farw David Crook yn 2000; cawsant dri mab. Yn 2019 gwobrwywyd i Isabel Fedal Cyfeillgarwch Tsieina gan yr Arlywydd Xi Jinping. Bu farw Isabel Crook yn Beijing yn 107 oed.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) John Gittings, "Isabel Crook obituary", The Guardian (21 Awst 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 27 Awst 2022.
- ↑ (Saesneg) "Isabel Crook, Maoist English teacher who spent her life in China supporting the regime – obituary", The Daily Telegraph (25 Awst 2023). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 25 Awst 2023.
- Genedigaethau 1915
- Marwolaethau 2023
- Academyddion benywaidd yr 20fed ganrif o Ganada
- Anthropolegwyr benywaidd o Ganada
- Comiwnyddion o Ganada
- Cyn-fyfyrwyr Prifysgol Toronto
- Cyn-fyfyrwyr Ysgol Economeg Llundain
- Merched a aned yn y 1910au
- Pobl o Sichuan
- Pobl fu farw yn Beijing
- Pobl ganmlwydd oed
- Ymfudwyr i Tsieina
- Ysgolheigion Saesneg o Ganada