Irmandades da Fala
Mudiad cenedlaetholgar a gwladgarol o Galisia oedd Irmandades da Fala ('Brawdoliaeth yr Iaith') a oedd yn weithredol rhwng 1916 ac 1936. Hwn oedd y mudiad cyntaf i ddefnyddio Galisieg fel eu hunig gyfrwng.
Yn 1915 galwodd Aurelio Ribalta, awdur Galisieg o Fadrid, i'w bobl amddiffyn yr iaith. Ar y 6ed o Ionawr y flwyddyn dilynol, sefydlodd Antón Vilar Ponte ymgyrch i sefydlu Mudiad Cyfeillion yr Iaith yn y papur newydd La Voz de Galicia ac ym Mawrth 1916 cyhoeddodd "Cenedlaetholdeb Galisiaidd (Nodiadau ar gyfer Llyfr)" ble crynhodd ei ddaliadau a'r dadleuon dros amddiffyn y Galisieg.
Cytunwyd a'i ddadleon gan lawer o arweinwyr ar draws y sbectrwm gwleidyddol, ac yn bwysicaf: Antón Losada Diéguez, y mudiad Traddodiadol (neu 'Geidwadol') a'r Democratiaid Rhyddfrydol.
Cafwyd dros 27 o ganghennau lleol o fewn dim ac aethpwyd ati i drefnu sioeau blodau, sesiynnau adrodd, cyrsiau dysgu Galisieg ayb ac yn etholiad 1918, cynrychiolwyd y mudiad newydd gan ddau berson.[1][2] Hyrwyddo diwylliant ac iaith oedd bwriad y Mudiad.[3].
Ar 14 Tachwedd 1916 sefydlodd Antón Vilar Ponte gylchgrawn gyda chylchrediad o oddeutu 1,800 - 'Ein Tir' (A Nosa Terra).
Amcanion
[golygu | golygu cod]Yng Nghyngres Tachwedd 1918 yn ninas Lugo, sefydlwyd eu Rhaglen Waith a oedd yn cynnwys yr Amcanion hyn:
- Prif Amcanion:
- Annibyniaeth lwyr i Galicia
- Datganoli pwer i'r rhanbarthau
- Ymuno â Chynghrair y Cenhedloedd
- Undeb Ffederal gyda Phortiwgal
- Hefyd:
- Hawl i Lywodraeth Galisia i ddeddfu; ac i bobl y wlad eu hethol mewn dull democrataidd.
- Pwer i ddeddfu a chynal llysoedd barn
- Deddfau tribiwnlysoedd annibynnol i Galisia heb ymyrraeth gan Sbaen
- Y Galisieg a'r Sbaeneg i fod yn ieithoedd swyddogol, o'r un statws
- Hawliau cyfartal i'r ddau ryw - merched a dynion
Oriel luniau
[golygu | golygu cod]-
A Nosa Terra' ('Ein Tir'): cylchgrawn y Mudiad
-
Pan sefydlwyd Plaid Galisia (Partido Galeguista) daeth y Frawdoliaeth i ben
-
Murlun yn nodi'r fan lle sefydlwyd Irmandades da Fala yn Corunna
-
Geiriadur a gyhoeddwyd gan y Frawdoliaeth yn 1933
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Partido Galeguista
- Ramón Piñeiro López
- Statud Ymreolaeth Galisia (1936) (Estatuto de Autonomía de Galicia de 1936)
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Vilar Ponte, Antón, Nacionalismo gallego, nuestra afirmación regional, A Coruña, Voz de Galicia, 1916; o texto tirouse de VV.AA., Lingua e literatura II, Rodeira, 2003, A Coruña, páx. 142
- ↑ Fernández del Riego, F.: Historia da literatura. Editorial Galaxia, 1984, px. 123. ISBN 84-7154-462-8.
- ↑ Justo G. Beramendi e Xosé Manuel Seixas (1996) O nacionalismo galego, Vigo:A Nosa Terra, páx. 132-133