Neidio i'r cynnwys

Iola Wyn

Oddi ar Wicipedia
Iola Wyn
Alma mater
Galwedigaethnewyddiadurwr Edit this on Wikidata

Newyddiadurwraig a darlledwraig yw Iola Wyn. Bu'n cyflwyno'r rhaglen Ffermio ar S4C rhwng 2005 a 2011. Fe'i magwyd yn Bow Street ger Aberystwyth. Cafodd ei haddysg yn Ysgol Gynradd Rhydypennau ac yna Ysgol Gyfun Penweddig. Mae'n briod gyda Iwan ac yn fam i ddau o blant.

Ar ôl gadael y Brifysgol cafodd swydd yn Adran Gyflwyno BBC Radio Cymru, cyn symud i'r Adran Newyddion lle bu'n ohebydd ar BBC Radio Cymru a Newyddion BBC Cymru ar S4C.[1] Rhwng mis Hydref 2012 a Thachwedd 2013 bu'n cyflwyno rhaglen radio "Rhaglen Iola Wyn".[2] Mae Iola yn berchen ar fusnes llety hunan-ddarpar yn Sanclêr. Mae hefyd yn Gydlynydd Cymdeithas Cerdd Dafod Barddas a Chyoeddiadau Barddas ers Hydref 2016.

Ail ymunodd â thîm gohebu Newyddion S4C tua 2019 gan ohebu dros ardal Orllewin Cymru.[3]

Mae Iola yn byw yn Sanclêr gyda'i gwr Iwan Pryce, gitarydd y band U Thant a'i dau mab.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. "Now & Then: Iola Wyn". Wales Online. Cyrchwyd 1 Chwefror 2015.
  2. http://www.golwg360.com/newyddion/cymru/128475-iola-wyn-yn-rhoir-gorau-iw-rhaglen Gwefan BBC Cymru;[dolen farw] adalwyd 04 Chwefror 2014.
  3. "Busnesau wedi prynu tri banc Tregaron cyn Steddfod 2020". BBC Cymru Fyw. 2019-08-12. Cyrchwyd 2021-08-06.

Dolenni allanol

[golygu | golygu cod]