Neidio i'r cynnwys

Idwal Robling

Oddi ar Wicipedia
Idwal Robling
Ganwyd1927 Edit this on Wikidata
Ynys-hir Edit this on Wikidata
Bu farw9 Mehefin 2011 Edit this on Wikidata
Casnewydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
  • Prifysgol Loughborough Edit this on Wikidata
Galwedigaethpêl-droediwr, cyflwynydd chwaraeon Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Chwaraeon

Pêl-droediwr amatur a sylwebydd chwaraeon o Gymro oedd Idwal Robling (1927 - 9 Mehefin, 2011) a fu'n gweithio i'r BBC am dros 40 mlynedd yn sylwebu ar bêl-droed, rygbi'r gynghrair, pêl fas, a phaffio.[1]

Dechreuodd ei yrfa gyda BBC Cymru yn y 1960au ac fe enillodd cystadleuaeth i fod yn rhan o'r tîm sylwebu ar gyfer Cwpan y Byd Pêl-droed 1970 gan guro Ian St John yn y rownd derfynol. Chwaraeodd Robling i dîm pêl-droed Olympaidd Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd 1952 yn Helsinki. Roedd hefyd yn gapten ar dîm pêl-droed amatur Cymru, a chwaraeodd i Lovell’s Athletic F.C. yng Nghasnewydd.[2]

Yn y 1970au a'r 1980au roedd yn gyflwynydd rhaglenni fel Sports Line UP a Sportfolio, ac yn fwy diweddar roedd yn aelod o dîm cynhyrchu Scrum V ac Y Clwb Rygbi.[1]

Bu ei ŵyr, Lewis Robling, yn chwarae rygbi i Ddreigiau Casnewydd Gwent.[1]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2  Idwal Robling yn marw yn 84 oed. BBC (11 Mehefin 2011). Adalwyd ar 6 Tachwedd 2012.
  2.  Marw Idwal Robling. Golwg360 (13 Mehefin 2011). Adalwyd ar 6 Tachwedd 2012.