Iaith ddadelfennol
Iaith heb ffurfdroadau sy'n cyfleu perthnasau gramadegol drwy ddefnyddio geirynnau neu drwy gystrawen neu ymadrodd mewn perthynas â geiriau eraill yw iaith ddadelfennol neu iaith analytig. Mewn ieithoedd dadelfennol mae'r morffemau yn rhydd, hynny yw, mae pob morffem yn air ar wahân.
Enghreifftiau
[golygu | golygu cod]Dosberthir ieithoedd fel naill ai dadelfennol neu synthetig. Gwneir hyn drwy roi mesuraid morffem-y-gair ar iaith. Hynny yw, geiriau wedi'u cyfansoddi o un morffem sy'n dueddol o fod gan ieithoedd dadelfennol. Mae unrhyw iaith sydd â chymhareb forffem-y-gair mwy nag 1 yn iaith synthetig. Dangosir morffemau isod:
- Yn y gair Cymraeg merch dim ond un morffem sydd ac felly mae gan y gair gymhareb forffem-y-gair o 1:1.
- Ond mae gan y gair gwyddoniaethau dri morffem (gwyddon-, iaeth, -au) ac felly mae gan y gair hwn gymhareb forffem-y-gair o 3:1.
Mae ieithoedd de-orllewin Asia fel Fietnameg, Tsieineeg a'r iaith Thai yn dueddol o fod yn ddadelfennol. Yn Tsieineeg dim ond un morffem sydd i bob gair ac felly ni ddefnyddir ffurfdroadau i fynegi cyflwr ar enwau neu amser ar ferfau, ond yn hytrach, mae hi'n dibynnu ar gyd-destun, safle a geirynnau. Er enghraifft, yn y frawddeg ganlynol defnyddir geiryn i ddangos y dyfodol, a dibynnir ar gystrawen i ddangos y berthynas rhwng y goddrych a'r gwrthrych:
明天 我 的 朋友 會 爲 我 做 一 個 生日 蛋糕 明天 我 的 朋友 会 为 我 做 一 个 生日 蛋糕 míngtīan wǒ de péngyou huì wèi wǒ zuò yí ge shēngri dàn'gāo yfory fi (geiryn israddol) cyfaill bydd i fi gwneud (bannod) (dosbarthydd geiriau) pen-blwydd teisen ‘Yfory bydd fy nghyfeillion yn gwneud teisen ben-blwydd imi.’
Gellir dweud bod dim morffoleg ffurfdroadol gan ieithoedd dadelfennol.