Huw Marshall
Huw Marshall | |
---|---|
Ganwyd | 28 Chwefror 1969 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | actor, person busnes, ymgynghorydd |
Gwefan | http://marshall.cymru/ |
Dyn busnes o Gymru yw Huw Marshall (ganwyd 28 Chwefror 1969)[1] sy'n arbenigwr marchnata digidol ac entrepreneur diwylliannol. Magwyd ef yn ardal Wrecsam ond mae bellach yn byw yng Nghwm Llyfni.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ymgynghorydd
[golygu | golygu cod]Wedi gadael S4C dechreuodd Huw Marshall ei gwmni ymgynghori cyfryngol ei hun. Mae'n cynnig gwasanaeth cynghori, creu cynnwys a marchnata digidol.
Mae'n cadw blog[2] cyfredol ar ei wefan ar ddatblygiadau yn y maes.
S4C
[golygu | golygu cod]Bu'n gweithio i S4C yn gyfrifol am arwain gweithgaredd digidol S4C gan ddatblygu a gweithredu strategaeth ddigidol newydd ar gyfer y Sianel rhwng 2012-2016. Yn ystod ei gyfnod bu'n gyfrifol a chyd-lynu i ddatblygiad rhyngwyneb gwylio newydd ar-lein ar gyfer y sianel, cynyddu gweithgarwch y sianel ar rwydweithiau cymdeithasol a chomisiynu cynnwys newydd ar gyfer y gofod digidol gan gynnwys y sianel YouTube @5Pump.
Yr Awr Gymraeg
[golygu | golygu cod]Ers sefydlu’r awr Twitter Cymraeg gyntaf yn Nhachwedd 2012 @yrawrgymraeg mae Huw wedi bod yn weithgar yn amlygu defnydd o’r Gymraeg yn y byd digidol.
Fe lansiodd Awr Cymru yn Awst 2016 er mwyn cynyddu ymhellach y defnydd o’r Gymraeg yn ddigidol.
Gemau Cymru
[golygu | golygu cod]Mae hefyd yn gadeirydd ar Gemau Cymru, y corff sy’n goruchwylio’r diwydiant gemau cyfrifiadurol yng Nghymru ac mae hefyd yn aelod o’r CADC, Cyngor Addysgu Digidol Cymru, y corff sy’n ymgynghori’r gweinidog addysg ar y defnydd o ddigidol o fewn y gofod addysg yng Nghymru.
Gwleidyddiaeth
[golygu | golygu cod]Mae Huw Marshall wedi sefyll fel ymgeisydd dros Blaid Cymru sawl gwaith gan gynnwys:
- Etholiad Cyffredinol 1992 - De Caerdydd
- Etholiad Cyffredinol y DU 2017 - Ogwr
Yn 2017 nododd Huw Marshall y byddai "problem ymddiriedaeth" gan y Cynulliad petai'n ceisio bod yn destun cynnwys a chyflwyno newyddion amdano.[3]
Actio
[golygu | golygu cod]Bu Huw yn actio mewn sawl cyfres deledu ar S4C gan gynnwys Emyn Roc a Rôl, drama ysgafn am grŵp roc Cymraeg yn yr 1980au. Bu hefyd yn actio yn y gyfres ddrama, Tipyn o Stâd.