Huw Llywelyn Davies
Huw Llywelyn Davies | |
---|---|
Ganwyd | 19 Chwefror 1945 Merthyr Tudful |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | cyflwynydd chwaraeon, cyflwynydd teledu |
Tad | Eic Davies |
Plant | Rhodri Llywelyn |
llofnod | |
Darlledwr yw Huw Llywelyn Davies (ganed 19 Chwefror 1945). Yn fab i Eic Davies a oedd yn arloeswr wrth drafod chwaraeon yn Gymraeg ar y radio, fe anwyd Huw ym Merthyr Tudful.
Bywyd cynnar
[golygu | golygu cod]Aeth i Ysgol Gynradd Gwaun-cae-gurwen, Ysgol Ramadeg Pontardawe, a Choleg y Brifysgol Caerdydd. Bu'n athro ac yn bennaeth yr Adran Gymraeg yng Ngholeg Llanymddyfri o 1969 tan 1974.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Ymunodd â HTV yn 1974 fel cyflwynydd ar raglen newyddion Y Dydd o dan arweiniad Gwilym Owen. Ymunodd â'r BBC yn 1979 gan gweithio i BBC Radio Cymru i ddechrau, yn cyflwyno rhaglen sgwrsio yn y boreau, rhaglenni i ddysgwyr a chyfresi gemau panel, cyn dechrau gweithio yn yr adran chwaraeon. Daeth yn enwog fel sylwebydd rygbi yn Gymraeg a Saesneg a hefyd yn gyflwynwr y rhaglen deledu Dechrau Canu, Dechrau Canmol. Roedd hefyd yn cyflwyno rhaglenni teledu y BBC o'r Eisteddfod Genedlaethol.
Fe ymddeolodd fel sylwebydd ar gêmau rhyngwladol yn Mawrth 2014.[1]
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Tu ôl i'r meic, BBC Cymru Fyw; Adalwyd 1 Rhagfyr 2016