Hugh Cudlipp
Hugh Cudlipp | |
---|---|
Ganwyd | 28 Awst 1913 Caerdydd |
Bu farw | 17 Mai 1998 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, gwleidydd |
Swydd | aelod o Dŷ'r Arglwyddi |
Plaid Wleidyddol | y Blaid Lafur |
Priod | Eileen Ascroft, Jodi Hyland, Edith Parnell |
Gwobr/au | OBE, Marchog Faglor |
Golygydd ieuengaf erioed Stryd y Fflyd, Llundain a elwir hefyd yn "Frenin y Tabloids" oedd Hugh Cudlipp OBE (28 Awst 1913 – 17 Mai 1998) a aned yn 118 Heol Llysfaen, Caerdydd. Bu'n olygydd y Mirror.[1]
Roedd yn frawd i Reg, golygydd News of the World a Percy a fu'n olygydd Evening Standard. Gan iddo fod yn flaenllaw ym "Mrwydr y Tabloids", gelwid ef yn "Frenin" arnynt. Erbyn diwedd ei oes, fodd bynnag, poenai am ddirywiad cynnwys papurau'r tabloids.
Gadawodd ysgol fechgyn Howard Gardens High School (a ailalwyd yn ddiweddarach yn Howardian High School) yn 14 oed gan weithio i nifer o bapurau newydd lleol cyn symud i Fanceinion i weithio ar y Manchester Evening Chronicle yn 16 oed. Yn 1932, ag yntau'n 19 oed, symudodd i Lundain i weithio fel features editor ar y Sunday Chronicle. Yn 1935 ymunodd â staff y Daily Mirror.[2]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Hafina Clwyd, Rhywbeth Bob Dydd (Gwasg Carreg Gwalch, 2008)
- ↑ Howard, Anthony. "Cudlipp, Hubert Kinsman (Hugh), Baron Cudlipp (1913–1998), journalist and publishing executive". Oxford Dictionary of National Biography. Cyrchwyd 2009-12-09. Italic or bold markup not allowed in:
|work=
(help)