Hufen Gwyddelig
Mae Hufen Gwyddelig yn wirodlyn hufen wedi'i seilio ar wisgi, hufen a blasau eraill. Yn nodweddiadol mae ganddi lefel ABV (alcohol yn ôl cyfaint) o 15 i 20% ac fe'i gweinir ar ei ben ei hun neu mewn diodydd cymysg, megis coffi Gwyddelig. Ei farchnadoedd mwyaf yw'r Deyrnas Unedig, Canada a'r Unol Daleithiau.
Brandiau
[golygu | golygu cod]Ymhlith y brandiau gorau o hufen Gwyddelig mae Baileys,[1] Kerrygold, Carolans a Saint Brendan's. Y gwneuthurwr mwyaf yw Diageo.
Mae cwmni Penderyn yn gwneud fersiwn Cymreig o'r hufen o'r enw Hufen Merlyn.[2]
Defnydd
[golygu | golygu cod]Mae Hufen Gwyddelig yn cael ei weini'n syth, dros rew, ac fel arfer, mewn diodydd cymysg, yn aml mewn cyfuniad â Kahlúa mewn coffi neu siocled poeth. Mae hefyd yn gyfuniad cyffredin yn y coctel Rwsiaid Gwyn. Mae rhai yn defnyddio Hufen Gwyddelig fel cynhwysyn mewn pwdinau a danteithion melys eraill.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan Baileys Archifwyd 2019-02-02 yn y Peiriant Wayback adalwyd 4 Chwefror 2019
- ↑ Merlyn ar wefan Penderyn Archifwyd 2019-03-04 yn y Peiriant Wayback adalwyd 4 Chwefror 2019