Hokage
Yn y gyfres manga ac anime Naruto, y prif Ninja ac arweinwr pentref cudd Konoha yw'r Hokage (火影 - Japaneg). Trwy gydol y gyfres, pump Hokage sydd wedi rheoli erbyn hyn. Er mwyn anrhyddedu'r Hokage, mae eu gwynebau yn cael eu cerfio mewn i'r graig enfawr sydd yn goruchwylio Konoha.
Hokage Gorffennol
[golygu | golygu cod]Hashirama Senju
[golygu | golygu cod]Y Hokage Gyntaf oedd Hashirama gan fod ef a chrëodd Konoha. Ei fedr oedd y fedr arddull pren, ac roedd hefyd ganddo'r gallu i reoli unrhyw bwystfil cynffonnog. Tadcu Tsunade oedd Hashirama.
Tobirama Senju
[golygu | golygu cod]Yr Ail Hokage oedd Tobirama, wedi'i etholi gan Hashirama cyn iddo farw.
Hiruzen Sarutobi
[golygu | golygu cod]Hiruzen Sarutobi, y Trydydd, yw'r Hokage sydd wedi rheoli'n hiraf ar ddau derm gwahannol. Fe oedd Sensei Jirayia, Tsunade, ac Orochimaru; er Orochimaru oedd hoff ddisgybl Hiruzen, Orochimaru oedd achos marwolaeth Hiruzen.
Minato Namikaze
[golygu | golygu cod]Y Pedwerydd Hokage oedd Minato, a hefyd tad i Naruto. Fel Naruto, Jirayia oedd Sensei Minato ac yna daeth Minato yn Sensei i Kakashi. Rhoddodd Minato ei fywyd er mwyn selio'r Kyuubi am fyth.
Tsunade
[golygu | golygu cod]Tsunade yw'r Pumed Hokage, a hefyd wyres y Gyntaf. Mae Tsunade yn dod yn Sensei i Sakura Haruno ar ôl derbyn swydd y Hokage, ac yn dysgu ei Ninjutsu personol iddi.
Danzo
[golygu | golygu cod]Er am gyfnod byr, daeth Danzo y Chweched Hokage ar ôl i Tsunade cwympo'n amwybodol trwy'r brwydr rhwng Naruto a Pain.