Hewitt Pearson Montague Beames
Hewitt Pearson Montague Beames | |
---|---|
Locomotif Beames Dosbarth G2 | |
Ganwyd | 9 Mai 1875 Monkstown |
Bu farw | 5 Mawrth 1948 Crewe |
Dinasyddiaeth | Gweriniaeth Iwerddon |
Alma mater | |
Galwedigaeth | peiriannydd, chwaraewr rygbi'r undeb |
Swydd | chief mechanical engineer |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | CBE |
Chwaraeon |
Roedd Hewitt Pearson Montague Beames yn Brif Beiriannydd y Rheilffordd Llundain a’r Gogledd-orllewinol rhwng 1920 a 1922
Bywyd
[golygu | golygu cod]Ganwyd ar 9 Mai 1875 ym Monkstown, Dulyn ac addysgwyd yn Ysgol Corrig, Dún Laoghaire, Coleg Dover ac Academi Filwrol Crawley. Daeth yn brentis i Francis William Webb yng Gweithdy Cryw. Chareuodd Rygbi dros Swydd Gaerhirfryn a chafodd wahoddiad i deithio Canada gyda thim rygbi Iwerddon. Cafodd wasanaeth yn y fyddin yn ystod yr Ail Rhyfel Boer rhwng 1900-1901 cyn fynd yn ôl i Gryw. Roedd o’n gynorthywywr i’r Uwchwyliwr Allanol, Cryw rhwng 1902 a 1909, yn gwneud gwaith pwmpio, ysgeintio a gwaith arall gyda pheiriannau’r dociau. Rhwng 1909 a 1914 roedd o’n gynorthwywr i Charles Bowen Cooke, prif Beiriannydd y Rheilffordd. Ymunodd â Chwmni Reilffordd y Peiriannwyr Brenhinol ym 1914[1]. Daeth o’n Dirprwy Brif Peiriannydd y rheilffordd ym 1919, a Phrif Beiriannydd ym 1920. Dim ond un ond un locomotif newydd greodd Beames.[2]
Ymunodd Rheilffordd Swydd Gaerhirfryn a Swydd Efrog â’r Rheilffordd Llundain a’r Gogledd-orllewinol ym 1922 a daeth George Hughes yn brif beiriannydd y cwmni newydd; daeth Beames yn beiriannydd i’r rhan gorllewinol. Daeth o’n ddirprwy brif beirianydd ym mis Rhagfyr 1930. Gadawodd y rheilffordd ar 30 Medi 1934. Cafodd CBE ym 1946. Bu farw ar 5 Mawrth 1948.