Hermann Hesse
Hermann Hesse | |
---|---|
Ffugenw | Emil Sinclair |
Ganwyd | 2 Gorffennaf 1877 Calw |
Bu farw | 9 Awst 1962 o strôc Montagnola |
Man preswyl | yr Almaen |
Dinasyddiaeth | Y Swistir, yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | bardd, arlunydd, athronydd, darlunydd, llenor, Nobel Prize winner, llyfrwerthwr, heddychwr, libretydd |
Adnabyddus am | The Glass Bead Game, Demian, Der Steppenwolf, Siddhartha, Peter Camenzind |
Tad | Johannes Hesse |
Mam | Marie Hesse |
Priod | Ruth Wenger, Ninon Hesse, Mia Hesse-Bernoulli |
Plant | Bruno Hesse, Martin Hesse |
Gwobr/au | Gwobr Lenyddol Nobel, Urdd Teilyngdod am Wyddoniaeth a Chelf, Gwobr Heddwch y Fasnach Lyfrau Almaeneg, Gwobr Wilhelm Raabe |
llofnod | |
Nofelydd a bardd o'r Almaen yn yr iaith Almaeneg a ymfudodd i'r Swistir oedd Hermann Hesse (2 Gorffennaf 1877 – 9 Awst 1962) a enillodd Wobr Lenyddol Nobel ym 1946.
Ganed ef yn Calw, Teyrnas Württemberg, yng nghyfnod Ymerodraeth yr Almaen, a chafodd ei fagu yn Calw ac yn Basel yn y Swistir. Mynychodd yr ysgol yn Göppingen, ger Stuttgart, cyn cael ei dderbyn i Goleg Diwinyddol Maulbronn ym 1891. Er yr oedd yn ddisgybl galluog, nid oedd yn hoff o awyrgylch pietistaidd y drefn addysg, a gadawodd y coleg erbyn diwedd ei flwyddyn gyntaf.
Aeth yn brentis mewn ffatri glociau yn Calw, ac yn ddiweddarach yn brentis mewn siop lyfrau yn Tübingen. Ei brif ddyhead oedd i fod yn fardd, a chasgliad o gerddi oedd ei lyfr cyntaf, Romantische Lieder (1898). Gweithiodd yn werthwr llyfrau nes iddo gyhoeddi ei nofel gyntaf, Peter Camenzind, ym 1904 a throi'n llenor llawn-amser ar ei liwt ei hun. Mae ei nofelau cynnar eraill yn cynnwys Unterm Rad (1906), Gertrud (1910), a Rosshalde (1914).
Cafodd Hesse sesiynau â'r seiciatrydd J. B. Lang, un o ddisgyblion Carl Jung, a gwelir dylanwad seicdreiddiad yn ei nofel Demian (1919). Ymwelodd â'r India, ac ysgrifennodd un o'i weithiau amlycaf, y nofel Siddhartha (1922), am hanes y Bwda. Mae ei nofelau diweddarach, gan gynnwys Der Steppenwolf (1927), Narziss und Goldmund (1930), a Das Glasperlenspiel (1943), yn ymwneud â deuoliaeth bywyd.
Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf (1914–18), symudodd Hesse i'r Swistir, a oedd yn wlad niwtral, ac yno ysgrifennai ymosodiadau ar filitariaeth a chenedlaetholdeb, a golygydd hefyd gyfnodolyn ar gyfer carcharorion rhyfel Almaenig. Derbyniodd statws preswylydd parhaol ym 1919, a dinasyddiaeth Swisaidd ym 1923. Ymsefydlodd ym Montagnola, yng nghanton Ticino, a bu farw yno ym 1962 yn 85 oed.[1]
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ (Saesneg) Hermann Hesse. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 8 Medi 2023.
- Genedigaethau 1877
- Marwolaethau 1962
- Beirdd y 19eg ganrif o'r Almaen
- Beirdd yr 20fed ganrif o'r Almaen
- Beirdd yr 20fed ganrif o'r Swistir
- Beirdd Almaeneg o'r Almaen
- Beirdd Almaeneg o'r Swistir
- Enillwyr Gwobr Lenyddol Nobel
- Llenorion straeon byrion yr 20fed ganrif o'r Almaen
- Llenorion straeon byrion yr 20fed ganrif o'r Swistir
- Llenorion straeon byrion Almaeneg o'r Almaen
- Llenorion straeon byrion Almaeneg o'r Swistir
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o'r Almaen
- Nofelwyr yr 20fed ganrif o'r Swistir
- Nofelwyr Almaeneg o'r Swistir
- Pobl o Baden-Württemberg
- Pobl o Ymerodraeth yr Almaen
- Pobl fu farw yn y Swistir
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 20fed ganrif o'r Almaen
- Ysgrifwyr a thraethodwyr yr 20fed ganrif o'r Swistir
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Almaeneg o'r Almaen
- Ysgrifwyr a thraethodwyr Almaeneg o'r Swistir