Hen Ddelhi
Math | old town |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Delhi |
Gwlad | India |
Cyfesurynnau | 28.66°N 77.23°E |
Sefydlwydwyd gan | Shah Jahan |
Hen Ddelhi (Hindi: पुरानी दिल्ली) (Wrdw: پُرانی دلّی Purānī Dillī), dinas ag iddi fur, yw rhan hynaf Dinas Delhi, India. Cafodd ei sefydlu fel Shahjahanabad (Urdu: شاہجہان آباد) gan yr Ymerawdwr Mughal Shahjahan yn 1639.[1] Roedd yn brifddinas Ymerodraeth y Mughal hyd at ei diwedd.[2][3] Fe'i gelwir yn "Hen Ddeli" mewn cyferbyniaeth â Delhi Newydd, prifddinas swyddogol India.
Codwyd yr Hen Ddinas ym 1639 ar safle dinasoedd cynharach Delhi oedd yn dyddio'n ôl i tua 1500 CC.
O fewn muriau Hen Ddelhi mae nifer o henebion diddorol o gyfnod y Mogẃliaid, gan cynnwys y Gaer Goch (sydd yn ei thro yn cynnwys Palas Ymherodrol Shah Jahan) a'r Jami Masjid (Y Brif Fosg).
Mewn cyferbyniaeth lwyr â rhodfeydd agored Delhi Newydd, mae strydoedd Hen Ddelhi'n gul a phrysur.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ http://www.dawn.com/weekly/dmag/archive/080817/dmag9.htm PAST PRESENT: Shahjahanabad Before 1857 By Mubarak Ali
- ↑ History of Mughal Architecture By R. Nath, Abhinav Publications, 2006
- ↑ City of Djinns: A Year in Delhi By William Dalrymple, Olivia Fraser, HarperCollins, 1993