Heddlu Gogledd Cymru
Gwedd
Enghraifft o'r canlynol | heddlu tiriogaethol |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 1967 |
Rhagflaenwyd gan | Caernarvonshire Constabulary, Anglesey Constabulary, Merionethshire Constabulary, Flintshire Constabulary, Denbighshire Constabulary |
Gweithwyr | 1,600 |
Pencadlys | Bae Colwyn |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Gwefan | https://www.north-wales.police.uk/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Un o bedwar heddlu Cymru yw Heddlu Gogledd Cymru (Saesneg: North Wales Police). Mae'n gwasanaethu awdurdodau unedol Gwynedd, Conwy, Sir Ddinbych , Sir y Fflint, Wrecsam ac Ynys Môn. Lleolir ei bencadlys ar gyrion Parc Eirias, Bae Colwyn.
Fe'i sefydlwyd yn 1967 pan ymforfforwyd heddluoedd Sir y Fflint a Sir Ddinbych yn Gwynedd Constabulary (a ffurfiwyd ym 1950 pan unwyd heddluoedd Sir Gaernarfon, Sir Fôn a Sir Feirionydd). Ailenwyd Gwynedd Constabulary yn "Heddlu Gogledd Cymru" ar ôl i lywodraeth leol gael ei diwygio yn Ebrill 1974, a rhoddwyd yr enw "Gwynedd" i un o'r siroedd newydd.