Heavy Rain
Gwedd
Gêm ddrama seicolegol gyffrous yw Heavy Rain ar gyfer y PS3. Mae'n seiliedig ar arddull ffilm noir, ac yn ddrama ryngweithiol gan fod dewisiadau'r chwaraewr yn arwain at newidiadau mawr yn y plot; gall brif gymeriadau marw, a gall wahanol weithredoedd arwain at wahanol ddiweddgloeon. Mae gan y gêm bedwar prif gymeriad sydd yn ymglymedig â dirgelwch Y Lladdwr Origami, llofruddiwr sydd yn defnyddio glawiad trwm i foddi bechgyn ifainc.
Plot
[golygu | golygu cod]Cymeriadau
[golygu | golygu cod]Yn Heavy Rain mae’r chwaraewr yn rheoli un o’r pedwar prif gymeriad:
- Ethan Mars: Pensaer gyda gwraig a dau fab yw Ethan. Ar ddechrau’r gêm, mae Ethan a’i fab hynaf, Jason, yn cael eu taro gan gar. Mae’r gwrthdrawiad yn lladd Jason ac yn gadael Ethan mewn coma am chwe mis. Dwy flynedd ar ôl y damwain, mae ei ail fab, Shaun, yn cael ei herwgipio gan y Lladdwr Origami. Yn ystod y gêm mae’n rhaid i Ethan dioddef pum brawf i brofi ei gariad at ei fab.
- Scott Shelby: Cyn-heddwas yw Shelby sydd erbyn hyn yn ymchwiliwr preifat sydd yn ymchwilio achos y Lladdwr Origami. Daw’n bartneriaid gyda Lauren Winter, mam un o ddioddefwyr y lladdwr.
- Norman Jayden: Proffiliwr Biwro Ymchwilio Ffederal o Washington yw Norman, wedi’i anfon i ymchwilio achos y Lladdwr Origami. Mae ganddo gaethineb i gyffur o’r enw triptocaine.
- Madison Paige: Ffoto-newyddiadurwr yw Madison, sydd yn dioddef o anhunedd a hunllefau. Daw’n ffrindiau gydag Ethan wrth ymchwilio i achos y Lladdwr Origami.