Hattie Jacques
Hattie Jacques | |
---|---|
Ganwyd | Josephina Edwina Jaques 7 Chwefror 1922, 1924 Sandgate |
Bu farw | 6 Hydref 1980 o trawiad ar y galon Eardley Crescent |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm, nyrs, welder, actor teledu, cynhyrchydd ffilm |
Cyflogwr |
|
Priod | John Le Mesurier |
Plant | Robin Le Mesurier, Kim Le Mesurier |
Actores gomedi Seisnig oedd Josephine Edwina Jaques (7 Chwefror 1922 – 6 Hydref 1980), a'i hadnabwyd dan yr enw llwyfan Hattie Jacques.
Dechreuodd ei gyrfa yn yr 1940au gan ddod yn enwog drwy ymddangos gyda Tony Hancock ar The Tony Hancock Show a Hancock's Half Hour. O 1958 tan 1974, actiodd mewn pedair ar ddeg o'r ffilmiau Carry On, gan chwarae rhan y Matron yn aml. Ffurfiodd Jacques bartneriaeth broffesiynol hir-dymor gydag Eric Sykes a gweithiodd gydag ef yn Sykes and A..., Sykes and a Big, Big Show a Sykes. Ymddangosodd Hattie Jacques mewn dau o ffilmiau clasurol Norman Wisdom sef "The Square Peg" a "Follow A Star".
Bu Jacques yn briod i John Le Mesurier, actor a ddaeth yn seren yn ddiweddarach fel y cymeriad Sergeant Arthur Wilson yn Dad's Army, o 1949 hyd eu ysgariad ym 1965. Bu farw Hattie Jacques o drawiad i'r galon ym 1980, yn 58 oed. Gwnaeth ei pherfformiad olaf mewn ysgol ar gyfer rhai gydag anhawsterau dysgu, gan berfformio ddarlleniad dramatic o Othello, gan William Shakespeare. Ei hymddangosiad olaf ar y teledu oedd mewn hysbyseb ar gyfer Asda yn ddiweddarach y flwyddyn honno.