Gyffin
Y Stryd Fawr, gyda Ffordd Llanrwst ar y dde | |
Math | pentref |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Conwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.2752°N 3.834109°W |
Cod OS | SH777769 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Janet Finch-Saunders (Ceidwadwyr) |
AS/au y DU | Claire Hughes (Llafur) |
Pentref bychan yng nghymuned Conwy, bwrdeistref sirol Conwy, Cymru, yw Gyffin.[1] (Mae'r enw llawn y Gyffin yn gywirach, ond mae pawb yn ei alw'n "Gyffin".) Fe'i lleolir ar lôn y B5106 tua hanner milltir i'r de-orllewin o dref Conwy, rhwng muriau'r dref honno a Bryn Eithin. Llifa Afon Gyffin ar hyd ochr ogleddol y pentref ar ei ffordd i aberu yn Afon Conwy, gan basio dan hen bont yng nghanol y pentref. Mae'r hen ffordd o Gonwy i Lanrwst yn rhedeg trwy'r pentref.
Hanes
[golygu | golygu cod]Er nad yw'n fawr o le heddiw a bod y rhan fwyaf o'r tai'n bur ddiweddar, mae gan Gyffin hanes hir. Safai treflan yn y Gyffin cyn i Edward I, brenin Lloegr, godi castell a thref gaerog Conwy. Roedd llawer o'r tir yn perthyn i Abaty Aberconwy.
Mae Eglwys Gyffin yn hynafol. Fe'i cysgegrir i Sant Bened heddiw ond tybir ei bod wedi'i chysegru i sant lleol yn wreiddiol.
Ganwyd y Dr Richard Davies, a gyfieithodd y Testament Newydd i'r Gymraeg, yn Gyffin yn y flwyddyn 1501. Plas y Person oedd ei gartref, ar safle ger y rheithordy presennol, ond does dim i'w weld o'r hen dŷ heddiw.
Pobl o Gyffin
[golygu | golygu cod]- Richard Davies (1501–81), esgob Llanelwy a Thyddewi
- John Gibson (1790–1866), cerflunydd
Oriel
[golygu | golygu cod]-
Y Gyffin o Gonwy
-
Eglwys Sant Bened
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ British Place Names; adalwyd 22 Tachwedd 2021
Trefi
Abergele · Bae Colwyn · Betws-y-Coed · Conwy · Cyffordd Llandudno · Degannwy · Hen Golwyn · Llandudno · Llanfairfechan · Llanrwst · Penmaenmawr · Tywyn
Pentrefi
Bae Cinmel · Bae Penrhyn · Betws-yn-Rhos · Bryn-y-maen · Bylchau · Caerhun · Capel Curig · Capel Garmon · Cefn Berain · Cefn-brith · Cerrigydrudion · Craig-y-don · Cwm Penmachno · Dawn · Dolgarrog · Dolwen · Dolwyddelan · Dwygyfylchi · Eglwys-bach · Esgyryn · Gellioedd · Glanwydden · Glasfryn · Groes · Gwytherin · Gyffin · Henryd · Llanbedr-y-cennin · Llandrillo-yn-Rhos · Llanddoged · Llanddulas · Llanefydd · Llanelian-yn-Rhos · Llanfair Talhaearn · Llanfihangel Glyn Myfyr · Llangernyw · Llangwm · Llangystennin · Llanrhos · Llanrhychwyn · Llan Sain Siôr · Llansanffraid Glan Conwy · Llansannan · Llysfaen · Maenan · Y Maerdy · Melin-y-coed · Mochdre · Nebo · Pandy Tudur · Penmachno · Pensarn · Pentrefelin · Pentrefoelas · Pentre-llyn-cymmer · Pentre Tafarnyfedw · Pydew · Rowen · Rhydlydan · Rhyd-y-foel · Tal-y-bont · Tal-y-cafn · Trefriw · Tyn-y-groes · Ysbyty Ifan