Gwyndaf Evans
Gwyndaf Evans | |
---|---|
Ganwyd | 4 Mehefin 1959 Dinas Mawddwy |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | gyrrwr rali |
Plant | Elfyn Evans |
Gwefan | https://www.gwyndafevansmotors.co.uk/ |
Chwaraeon |
Gyrrwr rali ac gŵr busnes o Gymru yw Gwyndaf Evans (ganwyd 4 Mehefin, 1959) yn
Cafodd ei eni a'i fagu yn Ninas Mawddwy Sir Feirionnydd lle roedd ei deulu'n rhedeg cwmni moduro a bysiau "R. E. Evans a'i Feibion". Cafodd ei addysgu yn Ysgol y Gader Dolgellau.
Daeth yn ail ym Mhencampwriaeth Rali Prydain ym 1995 cyn dod i frig y bencampwriaeth y flwyddyn ganlynol; daeth yn ail hefyd ym 1998, 1999 a 2010.
Ar y llwyfan rhyngwladol daeth i'r brig yn nosbarth ceir grŵp N ym 1990 a 1993 gan yrru Ford Sierra Cosworth RS 4x4. Cyrhaeddodd seithfed safle pencampwriaethau'r byd ym 1994 a'r chweched safle ym 1995 yn gyrru Ford Escort RS2000.[1]
Ym 1983 sefydlodd fusnes gwerthu moduron yn Nolgellau o'r enw Moduron Gwyndaf Evans[2] sydd bellach yn cynnwys hen gwmni ei daid R E Evans a'i feibion a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1930. Mae'r cwmni bellach yn cefnogi mab Gwyndaf, Elfyn Evans[3], sydd wedi dilyn yn ôl traed ei dad fel cystadleuydd ralïo ar lefel genedlaethol a rhyngwladol.
Gweler hefyd
[golygu | golygu cod]- Elfyn Evans
- Ralïo; rhaglen deledu
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ Gwefan rallye-info.com Archifwyd 2013-06-23 yn y Peiriant Wayback; adalwyd 18 Ion 2014
- ↑ Gwefan y cwmni; adalwyd 18 Ion 2014
- ↑ http://www.gwyndafevansmotors.co.uk/rally_elfyn.cfm Archifwyd 2014-02-20 yn y Peiriant Wayback adalwyd 18 Ion 2014