Gwrthryfel y Taliban
Math o gyfrwng | cyfodi |
---|---|
Dyddiad | 2006 |
Rhan o | Rhyfel Affganistan |
Dechreuwyd | 2002 |
Dechreuodd gwrthryfel y Taliban yn dilyn eu cwymp o rym ar ôl goresgyniad Affganistan yn 2001. Mae'r Taliban yn dal i ymosod ar luoedd Affganaidd, ISAF (o dan arweiniad NATO) ac Americanaidd. Mae nifer o ymosodiadau terfysgol wedi digwydd, ac mae al-Qaeda wedi'u cysylltu'n agos at weithgarwch y Taliban. Mae'r rhyfel hefyd wedi lledu i Bacistan (Rhyfel Wasiristan). Mae'r Taliban hefyd yn rhyfela ar raddfa is yn erbyn Byddin Genedlaethol Affganistan a lluoedd y glymblaid.
Mae'r gwrthryfel, a ddechreuodd yn 2002, yn cael ei ystyried fel gwrthdaro herwfilwrol o fewn rhyfel cartref cyfredol y wlad, a chaiff ei ymladd gan luoedd Gorllewinol fel rhan o'r Rhyfel yn erbyn Terfysgaeth. Mae'r Taliban yn gweld y gwrthryfel fel jihad yn erbyn y llywodraeth Affganaidd newydd a lluoedd y Cynghreiriaid, ac un o'u tactegau yw i achosi dinistr gwaedlyd gyda ffrwydradau hunan-fomio.[1][2] Bu farw 21 o filwyr Brydeinig yn y wlad ers 2001.[3]
Erbyn diwedd haf 2006 bu'r rhan fwyaf o dde ac ardaloedd o ddwyrain Affganistan, gan gynnwys rhanbarthau Helmand, Kandahar, Oruzgan, Zabul, Ghazni, Paktika, Paktia, Khost, Kunar, Lowgar a Nuristan, o dan reolaeth y Taliban. Ar wahân i'r dinasoedd mwyaf, lle mae presenoldeb uwch o luoedd y glymblaid a heddgeidwaid NATO, mae'r ardaloedd i gyd o dan reolaeth y Taliban mewn ffaith. Ym Medi 2006 lansiwyd Operation Medusa (gan Ganada) ac Operation Mountain Fury (gan NATO) fel ymgeisiau i ddinistrio grym y Taliban ymhellach.