Neidio i'r cynnwys

Gwrthddeallaeth

Oddi ar Wicipedia

Gelyniaeth at addysg, gwyddoniaeth, diwylliant a llenyddiaeth yw gwrthddeallaeth.

Gwawdlun gan Thomas Nast yn cymharu'r ysgolhaig gyda'r paffiwr.

Rhesymau

[golygu | golygu cod]

Elîtiaeth

[golygu | golygu cod]

Mae rhai sydd am gadw addysg i’r "cwmni gorau" yn unig, er mwyn arglwyddiaethu dros "y werin".

Ymdeimlad o israddoldeb

[golygu | golygu cod]

Mewn ffurf mwyn; fe fydd plant ysgol yn defnyddio geiriau fel “swot” neu “llyfrbryf” i ddisgrifio rhywun gallus. Mewn ffurf cryfach; fe fydd gwrthddeallwyr yn cydymaith ysgolheigaidd gyda "gwallgofrwydd", "anffyddiaeth", neu "gwrywgydiaeth".

Crefydd ffwndamentalaidd

[golygu | golygu cod]

Er bod gan pob crefydd draddodiadau dysgedig gyfoethog, mae hi’n gyffredin i esgyll ffwndamentalaidd fod yn wrthddeallus gan eu bod yn casáu unrhyw beth sy’n mynd yn erbyn eu cred. Trwy gydol hanes mae ffwndamentalwyr eithafol wedi erlid hereticiaid.

Gwleidyddiaeth awdurdodol

[golygu | golygu cod]

Fe fydd llywodraethau awdurdodol, unbennaeth neu totalitaraidd yn ystyried pobl addysgiadol fel bygwth, gan eu bod yn gofyn cwestiynau. Mae’r deallus wedi cael eu herlid, eu carcharu, eu arteithio a’u dienyddio gan y llywodraethau hyn.

Y system addysgol

[golygu | golygu cod]

Mae’r system addysgol ym Mhrydain wedi cael ei feirniadu am geisio gwastatáu addysg wrth gynnig "gwobr i bob plentyn". Cafodd yr ysgoloriaeth (11 ) ei ddiddymu ar ddiwedd y 1960au a'r 1970au cynnar, a therfynwyd yr ysgolion ramadeg. Gosodwyd disgyblion eilradd ac uwchradd mewn ysgolion mawr cyfun. Mae rhain wedi cael eu beirniadu am rhoi gormod o bwyslais ar bynciau fel chwaraeon, a dim digon o bwyslais ar wyddoniaeth a phynciau academaidd.