Neidio i'r cynnwys

Gwin Coch a Fodca

Oddi ar Wicipedia
Gwin Coch a Fodca
Dyddiad cynharaf1998
AwdurWynford Ellis Owen
CyhoeddwrHeb ei chyhoeddi
GwladCymru
IaithCymraeg
Pwncalcoholiaeth
GenreDramâu Cymraeg

Drama lwyfan Gymraeg gan Wynford Ellis Owen yw Gwin Coch a Fodca sy'n ymdrin â'r thema o alcoholiaeth. Llwyfannwyd y ddrama gan Theatr Powys yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penybont a'r Ogwr 1998. "Hanes alcoholig yn dod o'r gwter ac yn mynd i ganolfan Rhoserchan [uned adsefydlu cyffuriau ac alcohol] ger Aberystwyth, am driniaeth" yw'r ddrama, yn ôl yr actor Mici Plwm.[1]

Cefndir

[golygu | golygu cod]

Yn dilyn cyfaddefiad yr actor Wynford Ellis Owen ei fod wedi bod yn gaeth i alcohol am ran helaeth o'i yrfa, mae'r ddrama yn olrhain hanes Meic, sy'n gorfod derbyn cymorth arbenigol wedi iddo gyfaddef ei alcoholiaeth.

Mae Wynford yn cofio'r union noson "tu allan i'r off-leisans yn Aberystwyth ar y nos Sul honno ar yr 20fed o 'Orffennaf 1992" pan sylweddolodd fod yn rhaid i bethau newid."[2]

"Roedd potel fodca wag neithiwr ar y llawr, ac un arall newydd ei hagor yn fy llaw. Yn sydyn, mi welis i fy hun fel ro'n i. Mae'n amod pob profiad ysbrydol, ddudwn i [...] A sylweddolais na allwn i feio 'nhad a 'mam (oedd wedi marw ers blynyddoedd) am beth oedd wedi digwydd i mi; na 'ngwraig, na 'mhlant. Nid bai fy mrawd na'm chwaer, oedd o, chwaith; na'r ychydig ffrindiau oedd yn weddill, nac unrhyw un arall. Yn bwysicach, sylweddolais na allwn i feio neb ond fi'n hun! Alcohol oedd yn penderfynu popeth yn fy mywyd i bellach - alcohol a'r tabledi cysgu, y tawelyddion, a'r tabledi gwrth iselder ysbryd a'r lliaws o ddibyniaethau dyrys eraill, oedd yn fy nghaethiwo. Doedd gen i ddim dewis. Ac yn y foment honno - a allai fod wedi para chwinciad neu dragwyddoldeb am wn i - mi glywais lais yn sgrechian yn fy mhen: 'Mae'r cwbl drosodd! Mae popeth yn mynd i fod yn iawn o hyn allan!'"[2]

"Ro'n i'n meddwl fod Theatr Powys wedi bod yn ddewr iawn yn cynnig comisiwn i mi," noda Wynford, "...teimlais fod yna gefnogaeth gan bawb yn y cwmni tuag at y syniad. Roedd eu hagwedd tuag at alcoholiaeth, a'u dyhead i ddysgu mwy amdano, fel chwa o awyr iach. [...] Wrth Iwc, daeth y ddrama [...] yn weddol rwydd. Roedd rhywbeth cathartig ynghylch ei sgwennu. Wyddwn i ddim sut y byddai pobol yn ymateb i'r gwirioneddau oedd ynddi, a phoenwn yn fawr beth fyddai ateb fy mrawd [Arwel Ellis Owen] a'm chwaer iddi."[2] Dewiswyd ei gyd-actor o'r cyfresi Anturiaethau Syr Wynff a Plwmsan, Mici Plwm i gyfarwyddo'r ddrama. "Dwi'n cofio gofyn i [...] John Pierce Jones, a oedd o'n meddwl y gallwn i gyfarwyddo drama'n ymwneud ag alcoholiaeth", cofiai Mici Plwm yn ei hunangofiant Meical Ddrwg o Dwll y Mwg. "Ateb John ar ei ben oedd wrth gwrs y medrwn i. Roeddwn i wedi gwneud popeth arall o fewn y theatr, [...] Yr unig beth nad oeddwn i wedi ei wneud oedd cyfarwyddo.[...] Er mwyn gwybod popeth fedrwn i am y pwnc fe wnes i ymchwilio i weithgareddau Alcoholics Anonymous."[1]

"Meddyliwch am y sefyllfa. Alcoholig heddiw yn ysgrifennu drama am ei ymddygiad dros gyfnod o ddeng mlynadd ar hugain. Yn un peth, dydi alcohol ddim yn un o'r pethau gora i helpu'r cof. Mae rhai ohonom, yn dilyn noson fawr, yn methu cofio beth ddigwyddodd erbyn y bore wedyn. Ac, o gael ein hatgoffa, fe gawn ni achos i gywilyddio weithiau. Ond i rywun fyw mewn niwl o alcohol, cael ei biclo mewn alcohol, a mynd i sgwennu am ei brofiadau wedyn, sut goblyn mae o'n medru cofio? Tybed a oedd Wynff[ord Ellis Owen] wedi argymell wrth Gwmni Theatr Powys mai un o'r rhai agosaf ato yn ystod ei alcoholiaeth oeddwn i, ac y dylwn i gyfarwyddo'r ddrama a dod â'r gwirionedd i'r fei?"[1]

"Roeddwn i wedi deud wrth y cast, [...] fod alcoholiaeth yn salwch dybryd ond iddyn nhw beidio â chymryd trueni dros y cymeriad", eglura Mici Plwm. "Meic oedd enw'r alcoholig yn y ddrama ac fe fyddwn i'n eu rhybuddio rhag cydymdeimlo â Meic. Mae alcoholig yn medru mynd dan groen rhywun. Mae o'n medru bod, yng nghanol ei salwch, yn rhywun annioddefol. Fe werthith alcoholig ei nain. Mae alcoholig yn twyllo. Dydi alcoholig ddim yn meddwl am neb arall ond amdano fo neu hi ei hun. Mae alcoholig yn medru bod yn sbeitlyd. Mae'r alcoholig ar waelod y gasgen, yn rhywun ach-y-fi. Dyna beth oeddwn i'n ceisio ei esbonio iddyn nhw. Fe fyddwn i'n gweld, wrth ffilmio Syr Wynff a Plwmsan weithiau, tra'n torri am ginio, y byddai'r creadur yn gorfod mynd i gael ei ddiod bryd hynny. A methu'n glir 'i ddal o: mae alcoholig yn medru bod mor slei wnewch chi byth yn eich byw ei ddal o."[1]

"Rhoddodd y ddrama gyfle i mi ddechrau gwneud iawn i Mici Plwm, hefyd, am fy ymddygiad tuag ato yn y gorffennol", nododd Wynford Ellis Owen. "Mae dweud "sori' yn rhywbeth sy'n dod yn hawdd iawn i alcoholig. Mae newid agwedd, a gweithredu'n wahanol tuag at y person hwnnw, yn anoddach peth i'w wneud o beth coblyn", ychwanegodd.[2]

Cymeriadau

[golygu | golygu cod]
  • Meic
  • ei wraig
  • ei feddyg

Cynyrchiadau nodedig

[golygu | golygu cod]

Llwyfannwyd y ddrama gan Theatr Powys yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Penybont a'r Ogwr 1998. Cyfarwyddwr Mici Plwm; cast:

  • Meic - Siôr Llyfni
  • ei wraig - Olwen Medi
  • ei feddyg - Emyr Bell

"Pan agorodd Gwin Coch a Fodca yn Llanelwedd, rwy'n cofio iddo [Wynford Elis Owen] alw", cofiai Mici Plwm. "Roeddwn i wedi torri tameidiau o'r sgript a newid ambell beth. A'r frawddeg ddeudodd o wrtha i oedd, 'Diolch i ti am fy achub i rhag fy hun'. Roedd diwedd y sgript wreiddiol yn gofyn am i Meic sefyll mewn siwt wen ar ganol y Ilwyfan, gyda miwsig o'r Meseia yn chwara ac yntau yn edrych ar y dorf â'i ddwylo ar led. Yna'r gerddoriaeth o'r Meseia yn tawelu ac Un Dydd ar y Tro, Trebor Edwards yn cymryd ei le. Petawn i wedi cadw at y cyfarwyddiadau hynny fe fyddai pobol naill ai'n meddwl mod i'n gwneud hynny fel jôc neu fy mod i'r cyfarwyddwr mwyaf diawledig dan haul. Fe newidiais y diwedd a chael Meic yn dod i flaen y Ilwyfan yn ostyngedig, edrych ar y dorf a dechrau adrodd gweddi sobrwydd, a methu parhau. Wedyn cael ei wraig i ddod allan a gosod ei llaw ar ei ysgwydd heb ddeud dim. I mi, y wraig oedd arwres y ddrama am iddi aros gydag o drwy'r cyfan. Gorffennais y ddrama gyda Meic yn cwblhau'r weddi a'r golau'n pylu."[1]

Addaswyd y ddrama ar gyfer BBC Radio Cymru yn fuan wedyn.

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 Plwm, Mici (2002). Meical Ddrwg o Dwll y Mwg. Gwasg Gwynedd.
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 Owen, Wynford Ellis (2004). Raslas Bach a Mawr. Gwasg Gomer.