Gwilym Roberts (Caerdydd)
Gwilym Roberts | |
---|---|
Ganwyd | 12 Chwefror 1935 Caerdydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | athro |
Adnabyddus am | ymgyrchydd iaith |
Mae Gwilym Roberts yn athro a phleidiwr mawr dros yr iaith Gymraeg yng Nghaerdydd a'r cyffiniau. Ganwyd ef ar 12 Chwefror 1935 yng Nghaerdydd.
Bywyd
[golygu | golygu cod]Ganed Gwilym yn Llanisien ond cafodd ei fagu yn Rhiwbeina yng Nghaerdydd. Roedd ei dad o Benrhyndeudraeth ac yn gyfrifydd siartredig ac yn Ysgrifennydd y Town Planning and Housing Trust oedd yn rhoi benthyciadau ar log isel i gymdeithasau tai yng Nghymru. Roedd ei fam o Nantperis cyn symud i Fargoed ac yna Caerdydd lle gweithiai fel ysgrifenyddes. Dywedodd na fyddai'n cael siarad Saesneg yn y cartref gan ei rieni.[1]
Mynychodd Gwilym Ysgol Gynradd Rhiwbeina ac Ysgol Ramadeg i Fechgyn Penarth. Gwnaeth Gwasanaeth Cenedlaethol am ddwy flynedd gan gael ei adnabod fel "Gunner Roberts"[1] ac oddi yno aeth yn fyfyriwr i Goleg y Drindod Caerfyrddin ac yna blwyddyn yn y gyfadran addysg ym Mhrifysgol Aberystwyth.
Gyrfa
[golygu | golygu cod]Bu Gwilym Roberts yn athro Cymraeg am 31 mlynedd gan ddysgu ar draws Caerdydd yn Ysgol Gynradd Trelái, Ysgol Gynradd Tredelerch ("Rumney Primary School", Caerdydd) ac Ysgol Gynradd Springwood yn Llanedeyrn.
Bu'n athro Cymraeg yn Y Wladfa ym Mhatagonia am dair mlynedd gan gychwyn yn 1991.[1]
Gweithredu dros y Gymraeg
[golygu | golygu cod]Mae gyrfa a bywyd Gwilym Roberts wedi bod yn un o ddegawdau o waith ymarferol dros yr iaith a diwylliant Gymraeg ac, yn fwy penodol, dysgu Cymraeg fel ail iaith.
Un o sylfaenwyr Mudiad Ysgolion Meithrin Cymru
[golygu | golygu cod]Bu'n un o sylfaenwyr Mudiad Meithrin (a adnabuwyd fel Mudiad Ysgolion Meithrin wrth ei sefydlu) ac yn weithgar iawn gyda'r mudiad ers hynny gan ddod yn Gadeirydd Cenedlaethol y Mudiad rhwng 1981-1985. Cyn mynd ati i sefydlu'r corff genedlaethol newydd bu Gwilym yn weithgar yn y maes ers dros ddegawd. Mae bellach yn un o Lywyddion Anrhydeddus y Mudiad.
Wedi dychwelyd o'r brifysgol cododd Gwilym yr angen am gylch meithrin yn Rhiwbeina mewn cyfarfod o UCAC yn Tŷ'r Cymry. Roedd Gwilym wedi ei ysbrydoli gan gylch meithrin Gymraeg a gynhaliwyd festri Capel y Crwys ers Medi 1951 yn sgil agor ysgol gynradd Gymraeg yn Heol Ninian (safle dros-dro, fel mae'n digwydd i Ysgol Gynradd Gymraeg Hamadryad) cyn i'r ysgol symud a dod yn ysgol gyflawn, Ysgol Bryntaf yn Highfields, Llandaf ym Medi 1952. Cafodd gefnogaeth gan Gwyn M. Daniel, un o sylfaenwyr UCAC a gyriant mawr tu cefn i sefydlu'r ysgol gynradd Gymraeg yng Nghaerdydd. Cynhaliwyd y cyfarfod i sefydlu cylch meithrin ar 21 Medi 1959 mewn adeilad a alwyd 'Y Tŷ Wendy' ar stâd Pentre'r Gerddi, Rhiwbeina sef, adeilad yr arferai'r Athro W.J. Gruffydd a'r Dr Iowerth Peate gynnal Ysgol Sul yno yn yr 1920au. Cynhaliwyd y cylch yn y Neuadd Goffa yn Rhiwbeina cyn symud i festri Capel Bethel yn y maestref. Disgwylwyd dwsin o blant ar y bore cyntafond yn lle hynny daeth 21. Roedd y cylch o dan ofal Bethan Roberts a Sally Hughes. Bu Gwilym yn Ysgrifennydd ar y cylch am 31 mlynedd nes iddo adael i ddysgu yn y Wladfa yn 1991.[2]
Un o athrawon cyntaf Wlpan Cymraeg
[golygu | golygu cod]Chwaraeodd Gwilym Roberts rhan holl bwysig wrth addasu a gweithredu dull dysgu dwys Wlpan i'r Gymraeg. Ym 1972, yng Nghaerdydd, bu i Shoshana Eytan o Adran Addysg y Sefydliad Iddewig Rhyngwladol sôn am ei phrofiad hi ynglŷn â’r Ulpamin (lluosog 'ulpan') Hebraeg. Roedd Mrs Eytan wedi ennill cryn brofiad fel mora (tiwtor) cyn iddi hi symud i’r DU. Felly, pan aeth Chris Rees a Gwilym Roberts i Lundain i ymweld â Mrs Eytan yn Adran Addysg y Sefydliad Iddewig Rhyngwladol, i ddysgu rhagor am ddulliau dysgu gellid eu trosglwyddo i'r cyd-destun Gymraeg. Fodd bynnag, y cyfan roedd hi’n ei dweud wrthyn nhw oedd y byddai'r tiwtoriaid yn defnyddio sialc a siarad fel arfer, ac roedd llawer iawn yn dibynnu ar frwdfrydedd a phersonoliaeth y tiwtoriaid. Ym 1973 y cychwynnodd y cyrsiau WLPAN ar gyfer y cyhoedd gyda Gwilym Roberts a Chris Rees yn rhedeg y cwrs Wlpan cyntaf yng hen Ganolfan yr Urdd ar Heol Conwy, Pontcanna, Caerdydd sydd bellach wedi ei ddymchwel ac yn floc o rhandai. Yn ôl erthygl ddwyieithog ar y pwnc ar wefan Parallel Cymru mae'r ddau ohonyn nhw’n "gymeriadau eiconig o ran hybu’r Gymraeg, ac yn arloeswyr mewn dysgu’r iaith Gymraeg" a gelwyd Gwilym yn "the irrepressible Gwilym Roberts."[3]
Cymreictod Caerdydd
[golygu | golygu cod]Yn nodweddiadol, fel Cymro balch o Gaerdydd ac ymgyrchydd iaith, bu Gwilym yn weithgar iawn gyda'r Dinesydd, papur bro Caerdydd a phapur bro gyntaf Cymru, gan fod yn Gadeirydd arni am gyfnod.[1]
Roedd Gwilym Roberts yn un o ddefnyddwyr a chefnogwyr mawr Tŷ'r Cymry ar Ffordd Gordon yn y Rhath yng Nghaerdydd. Bu'n fynychwr yno oddi ar iddo fod yn y 6ed dosbarth yn yr ysgol ramadeg gan gofio'r lle fel yr "unig le seciwlar yng Nghaerdydd ar gyfer y Cymry Cymraeg, ac roedd pobl ifanc yn dod o bob cwr o Gymru yno."[4]
Cyhoeddi llyfryn
[golygu | golygu cod]Yn 2007 cyhoeddodd Gwilym lyfryn ar ei fagwraeth yng Nghaerdydd o'r enw Atgofion Plentyndod am Riwbeina. Cost y llyfr oedd £5 gyda'r elw yn mynd tuag at Eisteddfod Genedlaethol Cymru Caerdydd 2008. Gyda gwerthiant y llyfryn, chodwyd dros £2,000 o elw i'r gronfa.[5]
Anrhydeddau
[golygu | golygu cod]- 1980 - Gradd er Anrhydedd yn y Brifysgol Agored
- 1987 - Medal Syr T.H. Parry-Williams yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Bro Madog yn 1987
- 2011 - Tlws Goffa Elvet a Mair Elvet Thomas yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011
- 2015 - Tlws Coffa Eirug Wyn yn Y Faner Newydd
- 2024 - Tlws Coffa Aled Roberts i unigolyn sydd wedi gwneud cyfraniad gwirfoddol nodedig i’r sector Dysgu Cymraeg.[6]
- Llywydd Anrhydeddus y Mudiad Meithrin
Amrywiol
[golygu | golygu cod]Enwyd casét gan y grŵp pop o Gaerdydd, Edrych am Jiwlia o 1987 yn Gwilym Roberts er parch iddo fel symbol o Gymreictod dinesig Caerdydd a'i frwdfrydedd dros yr iaith a'i diwylliant yn y brifddinas.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ 1.0 1.1 1.2 1.3 "Gwilym Roberts". Portraits of Rhiwbina by Sarah Barnes ar lwyfan ISSUU. 13 Gorffennaf 2013. tt. 66–67.
- ↑ {{cite publication=Y Faner Newydd |volume=Rhifyn 50 |date=Gaeaf 2009}}
- ↑ Pritchard Newcombe, Lynda (23 Awst 2018). "WLPAN: O Israel i Gymru: Hanes cyrsiau Cymraeg i Oedolion". Gwefan ddwyieithog Parallel Cymru.
- ↑ "Galwadau i ailagor Tŷ'r Cymry yng Nghaerdydd". Cymru Fyw BBC. 24 Hydref 2020.
- ↑ "Book on growing up: A BOOK about life growing up in a city suburb is to be launched". Wales Online. 29 Mehefin 2007.
- ↑ "Cyhoeddi enillydd tlws er cof am Aled Roberts". Newyddion S4C. 20 Mai 2024.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod]- Portraits of Rhiwbina gan Sarah Barnes
- WLPAN: O Israel i Gymru: Hanes cyrsiau Cymraeg i Oedolion erthygl ddwyieithog yn Parallel.Cymru sy'n sôn am Gwilym a sefydlu'r Wlpan