Gwasanaeth Gwaed Cymru
Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn is-adran o Ymddiriedolaeth GIG Felindre sy'n gyfrifol am gasglu gwaed yng Nghymru, a dosbarthiad cynhyrchion gwaed i ysbytai o fewn y wlad, yn ogystal â swyddogaethau cysylltiedig eraill.[1]
Hanes
[golygu | golygu cod]Sefydlwyd y gwasanaeth ym 1946. Ar yr adeg honno'r unig brawf a gynhaliwyd oedd ar gyfer syffilis. Ers hynny rhoddwyd bron i 10 miliwn o unedau o waed yng Nghymru. .[2]
Swyddogaeth
[golygu | golygu cod]Mae swyddogaeth Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cynnwys
- casglu rhoddion gwaed, platennau a chelloedd stem gwirfoddol, heb fod am dal gan y cyhoedd yn gyffredinol.
- dosbarthu cynhyrchion gwaed i ysbytai Cymru. .
- darparu gwasanaeth sgrinio cyn geni i ysbytai.
- gwasanaethau labordy arbenigol, gan gynorthwyo ymchwilio i broblemau serolegol cymhleth
- cyfrifoldeb am Labordy Trawsblannu ac Imiwnogeneteg Cymru[3], sy'n darparu cymorth uniongyrchol i ddarparwyr gwasanaethau trawsblannu arennol a bôn gelloedd gwaed. Mae hefyd yn cynnal panel cenedlaethol o roddwyr potensial o bôn-gelloedd gwaed a Chofrestrfa Rhoddwyr Mêr Esgyrn Cymru.
- darparu cymorth ymgynghorydd meddygol i bwyllgorau trallwyso gwaed Cymru i'w galluogi i fodloni WHC (2002)137 - Tralllwyso Gwaed Gwell. Darparir cyngor clinigol i ysbytai yn ôl y galw.
- cynnal cynllun asesu ansawdd allanol NEQAS ar gyfer Histogydnawsedd ac Imiwnogenetig y Deyrnas Unedig
- cynnal Cynllun Asesiad Hyfedredd Serolegol Cymru
Gwasanaeth Gwaed Cymru Gyfan
[golygu | golygu cod]Ar 2 Mai 2016 daeth Gwasanaeth Gwaed Cymru yn wasanaeth cenedlaethol pan ddechreuodd gasglu a dosbarthu gwaed yn y gogledd. Cynt roedd y gwasanaeth yn cwmpasu canolbarth, de a gorllewin Cymru yn unig, gyda gwasanaethau'r gogledd yn cael eu darparu fel rhan o wasanaeth Lloegr. [4][5]
Ymchwil a Datblygu
[golygu | golygu cod]Mae'r gweithgaredd ymchwil a datblygu o fewn Gwasanaeth Gwaed Cymru yn cefnogi ystod eang o bynciau gofal iechyd.[6] Mae ei bedair thema ymchwil, Trawsblannu, Gofal Rhoddwyr ac Iechyd y Cyhoedd, Cynhyrchion a Therapïau yn adlewyrchu sbectrwm y gwaith hwn. Yn 2017 cyhoeddodd Ymchwil a Datblygu Strategol Gwasanaeth Gwaed Cymru sy'n nodi ei ehangiad arfaethedig i waith cydweithredol ac ymgysylltu â meysydd meddygaeth adfywio a phersonol.
Cyfeiriadau
[golygu | golygu cod]- ↑ "Amdanom ni". Welsh Blood Service. 2017. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-09-18. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
- ↑ "Welsh Blood Service celebrates 70 years saving lives". ITV News. 26 September 2016. Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
- ↑ "Welsh Transplantation and Immunogenetics Laboratory". Cyrchwyd 21 Ionawr 2018.
- ↑ Gwasanaeth Gwaed Cymru - Amdanom Ni Archifwyd 2017-09-18 yn y Peiriant Wayback adalwyd 21 Ionawr 2018
- ↑ New all-Wales blood service set to be launched next May to ensure every donation supports Welsh patients adalwyd 21 Ionawr 2018
- ↑ "Research and Development". Welsh Blood Service. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-09.