Gwales.com
Gwedd
- Gweler hefyd Gwales.
Gwefan fasnach llyfrau Cymreig yw Gwales.com. Rhestrir llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg o Gymru ac o berthnasedd i Gymru ar y wefan, gan gynnwys llyfrau sydd heb eu cyhoeddi eto. Dosbarthir llyfrau yn fyd eang o ganolfan ddosbarthu Cyngor Llyfrau Cymru ar Ystad Glanyrafon, Aberystwyth.
Mae sawl fersiwn o wefan Gwales ar gyfer llyfrgelloedd, siopau llyfrau ac unigolion, sy'n galluogi archebu llyfrau o sawl cyhoeddwr gwahanol heb orfod mynd at y cyhoeddwyr fesul un.
Caiff adran newyddion y wefan ei ddiweddaru'n gyson gyda manylion lansiadau llyfrau ac yn y blaen.
Dolenni allanol
[golygu | golygu cod] Eginyn erthygl sydd uchod am y rhyngrwyd neu'r we fyd-eang. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.