Neidio i'r cynnwys

Gorsaf reilffordd Union, Toronto

Oddi ar Wicipedia

Gorsaf reilffordd Union yw prif orsaf reilffordd Toronto, Ontario, Canada. Gwasanaethir yr orsaf gan Gomisiwn Transit Toronto, Go Transit, UP Express a Via Rail.[1] Mae tua chwarter miliwn o bobl yn defnyddio’r orsaf yn ddyddiol.[2]

Trenau Go Transit tu allan yr orsaf

Roedd gorsaf Union gynharach, adeiladwyd ym 1872, ar Heol Front, rhwng heolydd York a Simcoe. Cwblhawyd ei mynedfa ym 1895, yn cynnwys swyddfeydd tocynnau, ystafelloedd aros a swyddfeydd y Rheilffordd Grand Trunk. E.P.Hannaford, prif beiriannydd y reilffordd, oedd y pensaer. Roedd yr orsaf yn seiliedig ar orsaf reilffordd yr Illinois Central yn Chicago..[3]

Dinistrwyd 14 acer ynghanol y ddinas gan dân ar 19 Ebrill 1904, yn rhoi cyfle i adeiladu gorsaf ar gyfer y cwmnïau i gyd. Llogwyd y safle presennol i’r Rheilffordd Grand Trunk ym 1905, a dechreuodd gwaith adeiladu ym 1914. Wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf, a dadleuon rhwng y rheilffyrdd, dinas ac awdurdod yr harbwr, ac wedyn methiant y rheilffordd Grand Trunk, agorwyd yr orsaf gan Edward, tywysog Cymru, ar 6 Awst 1927 a daeth y trenau cyntaf ar 11 awst.[3] Dynodwyd yr orsaf yn Safle Hanesyddol Genedlaethol ym 1975.[4] Prynwyd yr orsaf gan ddinas Toronto yn 2000.[2]

Adeiladwaith ‘Beaux-Arts’ yr orsaf

[golygu | golygu cod]

Cydweithiodd G.A.Ross, R.H.Macdonald, Hugh Jones a John M.Lyle ar cynllun yr orsaf. Gwnaethpwyd nenfwd y neuadd fawr gyda theils Gustafino, ac yn cynnwys enwau’r dinasoedd ar reilffyrdd Canadian Pacific a Canadian National.

Adeiladwyd y waliau mewnol gyda maen Zumbro o Mississippi, y llawr o farmor Tennessee, a’r waliau allanol gyda chalchfaen Indiana a Queenston.[2]

GO Transit

[golygu | golygu cod]

Cyhoeddwyd bwriad i ddechrau gwasanaethau lleol ar gyfer teithwyr gan Lywodraeth Ontario ar 19 Mai 1965, a cyrhaeddodd trên gyntaf GO Transit o Oakville ar 23 Mai 1967.[2]

Cyfeiriadau

[golygu | golygu cod]
  1. Gwefan torontounion.ca
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 "Gwefan toronto.ca". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-26. Cyrchwyd 2017-11-03.
  3. 3.0 3.1 "Gwefan toronto.ca". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-12-01. Cyrchwyd 2017-11-07.
  4. Tudalen hanes ar wefan torontounion.ca

Dolen allanol

[golygu | golygu cod]